Byddwn yn gwneud ein gorau glas i fynd i’r afael â’r materion canlynol:

  • Gamblo o dan oed. Mae’n anghyfreithlon i unrhyw unigolyn dan 16 oed gymryd rhan mewn loteri. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn am brawf oedran gan unrhyw gwsmer a gellir atal cyfrif cwsmer hyd nes y ceir tystiolaeth foddhaol. Os na all unigolyn, am unrhyw reswm, brofi ei fod dros 16 oed ar ôl ennill, caiff unrhyw enillion eu fforffedu.
  • Terfynau Gamblo. Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn gosod cyfyngiad o 10 tocyn fesul raffl, ac ni ellir prynu mwy na 2 ohonynt ar-lein.
  • Hunaneithrio. Gallwn gau aelodaeth loteri unrhyw chwaraewr ar gais, a hynny am isafswm cyfnod o chwe mis ac ni fydd modd ail-agor y cyfrif yn ystod y cyfnod hwn. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn hefyd yn ceisio sicrhau nad yw’r unigolyn yn ceisio agor cyfrif newydd.
  • Mynediad i Hanes Chwaraewr. Byddwn yn darparu hanes llawn ei aelodaeth loteri i unrhyw chwaraewr ar gais, gan gynnwys hanes llawn ei daliadau a’i enillion.
  • Darparu Gwybodaeth am Sefydliadau Cymorth Gamblo. Byddwn yn darparu manylion cyswllt neu ddolenni ar unrhyw wefannau loteri neu gyfryngau priodol eraill i GamCare a sefydliadau perthnasol / priodol eraill. Rydym hefyd yn darparu cymorth ariannol drwy’r Lotteries Council i GREaT (Gambling Research, Education and Treatment), sy’n codi arian er mwyn cefnogi ymchwil, addysg a thrin problemau gamblo.
  • Gwybodaeth am Hunangymorth ac Ymwybyddiaeth. Byddwn yn darparu gwybodaeth am hunangymorth ac ymwybyddiaeth ar unrhyw wefannau loteri neu gyfryngau priodol eraill ynghyd â manylion cyswllt neu ddolenni i GamCare a sefydliadau perthnasol / priodol eraill.
  • Hyfforddi Staff. Mae’r holl staff perthnasol yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ar faterion yn ymwneud â phroblemau gamblo.