Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen annibynnol ac, er ein bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn y GIG, nid yw'r elusen yn rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Golyga hyn nad ydym yn casglu, yn storio nac yn gallu gweld cofnodion meddygol, data galwadau a all enwi cleifion, nac unrhyw ddata personol eraill a gedwir ar weinyddion y GIG.

 

Caiff data clinigol ar gyfer y galwadau rydym yn ymateb iddynt eu rheoleiddio'n ofalus gan GIG Cymru. Dim ond data dienw neu ddata personol cleifion sydd wedi cytuno i rannu eu manylion at ddibenion cyhoeddusrwydd a gaiff eu casglu, eu defnyddio a'u storio gennym.

 

I gael cyngor a gwybodaeth am gofnodion meddygol, anfonwch neges e-bost i [email protected] neu ysgrifennwch at: Cyfrinachol – At sylw EMRTS Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen. SA14 8LQ.