O dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU, mae gennych hawliau dros y data personol sydd gennym amdanoch. Rydym wedi crynhoi'r rhain isod.

 

Os hoffech gysylltu â ni ynghylch eich data a'ch hawliau, anfonwch neges e-bost i [email protected] neu ysgrifennwch at: Diogelu Data, Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen. SA14 8LQ.

 

Efallai y bydd angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth a/neu dystiolaeth o bwy ydych. Byddwn yn ceisio ymateb yn llawn i bob cais o fewn mis i dderbyn eich cais. Fodd bynnag, os na allwn wneud hynny, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio'r rhesymau dros yr oedi. 

 

Noder bod eithriadau yn gymwys i nifer o'r hawliau hyn ac na fydd pob hawl yn gymwys o dan bob amgylchiad. Am ragor o fanylion gweler y canllawiau a gyhoeddwyd gan reoleiddiwr diogelu data'r DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (dolen allanol).

 

  • Yr hawl i weld eich data personol

Mae gennych hawl i ofyn am gael gweld y data personol sydd gennym amdanoch. Mae gennych hefyd hawl i ofyn am gopi o'r data personol sydd gennym amdanoch a byddwn yn ei roi i chi oni fydd eithriadau cyfreithiol yn gymwys.

 

Os hoffech weld unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch, anfonwch ddisgrifiad o'r wybodaeth rydych am ei gweld drwy e-bost neu'r post gan ddefnyddio manylion cyswllt ein hadran Diogelu Data uchod.

 

  • Yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir sydd gennym amdanoch

Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch. Os ydych yn credu bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, rhowch fanylion i ni a byddwn yn ymchwilio i'r mater a, lle y bo'n gymwys, yn cywiro unrhyw wallau.

 

  • Yr hawl i gyfyngu ar y defnydd o'ch data personol

Mae gennych hawl, o dan amgylchiadau penodol (gan gynnwys os byddwch yn amau cywirdeb eich data personol) i ofyn i ni gyfyngu ar y gwaith o brosesu rhywfaint o'ch data personol neu'r cyfan.

 

  • Yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol

Gallwch ofyn i ni ddileu rhywfaint o'ch data personol neu'r cyfan. Mae'r hawl hon yn gymwys o dan amgylchiadau penodol megis pan na fydd angen y data personol arnom mwyach i gyflawni’r dibenion y'u casglwyd ar eu cyfer. Mae gennych hawl i wrthod dileu eich data personol o dan amgylchiadau penodol.

 

  • Yr hawl i fynnu bod eich data personol yn gludadwy

O dan amgylchiadau penodol, os byddwn yn prosesu eich data personol, cewch ofyn i ni eu darparu i chi neu ddarparwr gwasanaeth arall mewn fformat y gellir ei ddarllen gan beiriant. Mae hyn yn cynnwys data sy'n cael eu prosesu yn seiliedig ar eich caniatâd, neu er mwyn llunio neu gyflawni contract â chi, ac mae'r data yn cael eu prosesu drwy ddulliau awtomataidd.

 

  • Yr hawl i wrthwynebu defnyddio eich data personol

Os byddwn yn prosesu eich data personol yn seiliedig ar ein buddiannau dilys, bydd gennych hawl i wrthwynebu i ni ddefnyddio eich data.

 

Os byddwn yn prosesu eich data at ddibenion marchnata uniongyrchol a'ch bod am wrthwynebu hynny, byddwn yn rhoi'r gorau i brosesu eich gwybodaeth at y dibenion hyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl.

 

Gallwch arfer eich hawl i wrthwynebu drwy anfon neges e-bost neu ysgrifennu atom gan ddefnyddio manylion cyswllt ein hadran Diogelu Data uchod.