Rhannu eich gwybodaeth Efallai y bydd angen i ni drosglwyddo'r data personol sydd gennym amdanoch i unrhyw un o'n safleoedd yn y DU. Weithiau, bydd angen i ni rannu eich data personol ag eraill y tu allan i'n sefydliad. Mae'r adran hon yn nodi manylion y partïon hynny y byddwn yn rhannu eich data personol â nhw a pham. Mae hefyd yn dweud wrthych am ein sail gyfreithiol dros wneud hynny o dan ddeddfwriaeth diogelu data a'r camau y byddwn yn eu cymryd i ddiogelu eich data personol. Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol i drydydd partïon. Ein Partneriaid Gwasanaeth Rydym yn defnyddio partneriaid gwasanaeth a ddewiswyd yn ofalus, megis cludwyr a gwasanaethau dosbarthu eraill, darparwyr gwefannau a TG, darparwyr gwasanaethau cwmwl, asiantaethau postio, marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus a phroseswyr taliadau neu ffurflenni ar-lein. Nid ydym wedi cynnwys enwau ein partneriaid gwasanaeth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn am y byddant yn newid o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'n darparwyr gwasanaethau presennol, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost i [email protected]. Rydym yn defnyddio'r partneriaid gwasanaeth a ddisgrifiwyd uchod i'n galluogi i redeg yr Elusen yn effeithlon ac yn effeithiol, sydd er ein buddiannau dilys. Dim ond â phartneriaid gwasanaeth sydd wedi ein bodloni bod ganddynt y mesurau diogelu data priodol ar waith i ddiogelu eich data personol y byddwn yn rhannu eich data personol. Rydym hefyd yn ymrwymo i gontractau â'r cyfryw bartneriaid gwasanaeth sy'n gosod rhwymedigaethau cytundebol arnynt sy'n ymwneud â diogelu data, gan gynnwys rhwymedigaeth i ddefnyddio eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol â'n cyfarwyddiadau yn unig. Trydydd Partïon Eraill Efallai y bydd hefyd angen i ni rannu eich data personol ag eraill o dan yr amgylchiadau canlynol. Os byddwn yn gwerthu, yn trosglwyddo neu'n uno rhannau o'n sefydliad, yn ystod unrhyw broses o'r fath, efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich data personol i bartïon eraill (megis prynwyr neu fuddsoddwyr posibl). Pan fyddwn yn gwneud hynny, byddwn yn dibynnu ar ein buddiannau busnes dilys. Weithiau, efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich data personol i sefydliadau megis y llysoedd neu'r heddlu er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol rydym yn ddarostyngedig iddynt a/neu atal twyll neu droseddau. O bryd i'w gilydd, efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich data personol mewn cysylltiad â chamau y mae angen i ni eu cymryd i ddiogelu ein buddiannau busnes neu ein heiddo neu sicrhau diogelwch personol ein staff neu ymwelwyr â'n safleoedd neu ein gwefannau. Efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich data personol i'n cynghorwyr proffesiynol (er enghraifft, ein cyfreithwyr a'n cyfrifwyr) mewn cysylltiad â darparu cyngor proffesiynol ganddynt a/neu sefydlu neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol. Efallai y bydd trydydd partïon, rydych wedi rhoi gwybodaeth iddynt, yn rhannu eich data personol â ni. Er enghraifft: trefnwyr digwyddiadau annibynnol a llwyfannau codi arian, megis JustGiving neu VirginMoneyGiving; gwefannau neu asiantaethau recriwtio a gwirfoddoli; a darparwyr gwasanaethau sy'n gweithredu ar eich rhan, megis canfaswyr loteri a llwyfannau siopau ar-lein. Manage Cookie Preferences