Beth yw cwcis?

Mae cwcis yn ffeiliau testun bach a osodir ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych yn ymweld â nhw. Fe'u defnyddir yn eang er mwyn sicrhau bod gwefannau yn gweithio, neu'n gweithio'n well, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchenogion gwefan. Er enghraifft, gallant helpu i wneud yn siŵr bod delweddau yn ymddangos yn gywir ar eich dyfais drwy storio gwybodaeth am faint eich porwr neu ddweud wrth weithredwr pa mor dda y mae tudalen we yn perfformio.

 

Mae cwci yn cynnwys ‘cod adnabod’ (llinyn o lythrennau a rhifau). Gall cwcis fod yn gwcis ‘parhaus’ neu'n gwcis ‘sesiwn’. Caiff cwci parhaus ei storio gan borwr gwe a bydd yn parhau'n ddilys hyd at ei ddyddiad dod i ben penodedig neu nes iddo gael ei ddileu gan y defnyddiwr cyn y dyddiad dod i ben. Daw cwci sesiwn i ben ar ddiwedd sesiwn y defnyddiwr pan gaiff y porwr gwe ei gau.

 

Fel arfer, ni fydd cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy'n enwi defnyddiwr yn bersonol, ond gellir eu cysylltu â data personol eraill sy'n cael eu storio amdanoch.

 

Sut rydym yn defnyddio cwcis a'ch hawliau

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn defnyddio cwcis ar ei gwefan. Defnyddir y cwcis hyn i wella profiad ein hymwelwyr a meithrin dealltwriaeth well o'r ffordd y defnyddir ein gwefan a sut mae ein hysbysebion yn perfformio. Er enghraifft, gall cwcis ddweud wrthym a ydych wedi ymweld â'n gwefan o'r blaen neu a ydych yn ymwelydd newydd. Nid yw ein cwcis yn storio gwybodaeth ariannol na gwybodaeth a all eich enwi'n uniongyrchol (megis eich enw a'ch cyfeiriad).

 

Mae gennych yr hawl i ddewis a ydych am dderbyn y cwcis hyn. Gallwch arfer yr hawl hon drwy ddiwygio neu osod y rheolyddion ar eich porwr i adlewyrchu eich dewisiadau o ran cwcis. Fodd bynnag, noder, os byddwch yn gwrthod derbyn cwcis, ei bod yn bosibl na chewch ddefnyddio holl weithrediadau ein gwefan.

 

Am ragor o wybodaeth am gwcis a chanllawiau ar reoli eich cwcis, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (dolen allanol).

 

Cwcis a ddefnyddir gennym

Defnyddir y cwcis canlynol ar ein gwefan, fel y'u gosodir gan ddarparwr gwasanaeth ein gwefan. Efallai y caiff y cwcis eu storio ar eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan.

 

Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'n gwefan. Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth am y defnydd a wneir o wefannau drwy ddefnyddio cwcis. Gall y data hyn gael eu storio y tu allan i'r UE, wedi'u diogelu gan gymalau enghreifftiol. Defnyddir y wybodaeth a gesglir am ein gwefan i lunio adroddiadau ar y defnydd a wneir o'n gwefan. Gellir darllen polisi preifatrwydd Google yn: https://www.google.com/policies/privacy.

 

Enw'r Cwci

Defnyddir gan

Disgrifiad

Daw i ben

__utma

Google Analytics

Mae'n storio nifer yr ymweliadau gan ddefnyddiwr, amser yr ymweliad cyntaf, yr ymweliad blaenorol a'r ymweliad presennol. Nid yw'n cynnwys unrhyw ddata personol ac fe'i defnyddir at ddibenion dadansoddi yn unig.

2 flynedd o'r dyddiad y'i gosodwyd/diweddarwyd

__utmz

Google Analytics

Mae'r cwci perfformiad hwn yn storio o ble y daeth defnyddiwr (e.e. peiriant chwilio, allweddair chwilio, dolen).

6 mis o'r dyddiad y'i gosodwyd/diweddarwyd

_ga a _gid

Google Analytics

Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr gwefan yn Google Analytics.

2 flynedd a 2 awr

_gat_UA-XXXXXXXX-X (lle y caiff y llythrennau X eu disodli gan rif adnabod Google Analytics)

Google Analytics

Fe'i defnyddir i gymedroli galwadau i wasanaeth Google Analytics.

1 funud

__unam

ShareThis

Fe'i gosodir fel rhan o wasanaeth ShareThis ac mae'n monitro gweithgarwch "ffrwd clic", e.e. tudalennau gwe yr edrychir arnynt, symud o dudalen i dudalen, faint o amser a dreulir ar bob tudalen ac ati. Dim ond os bydd wedi cofrestru ar wahân â ShareThis ar gyfer cyfrif ShareThis a'i fod wedi rhoi caniatâd iddo wneud hynny y bydd gwasanaeth ShareThis yn enwi defnyddiwr.Mae'n monitro am ba hyd y byddwch yn aros ar wefan: pryd y bydd ymweliad yn dechrau ac yn gorffen. Nid yw'n cynnwys unrhyw ddata personol ac fe'i defnyddir at ddibenion dadansoddi yn unig.

14 mis

cc_cookie_accept

Y wefan

Mae'n storio p'un a yw'r defnyddiwr wedi derbyn neges y cwci ai peidio.

365 diwrnod

ASP.NET_SessionId

Y wefan

Fe'i defnyddir i ddilysu sesiwn defnyddiwr ar ôl iddo fewngofnodi. Mae'n cau pan fyddwch yn gadael y porwr.

Diwedd y sesiwn

ARRAffinity

Y wefan

Mae'n dweud wrth ein seilwaith pa weinydd a ddylai ymdrin â'r cais.

Diwedd y sesiwn

MemberLoggedIn

Y wefan

Fflag ddeuaidd sy'n storio p'un a yw defnyddiwr wedi mewngofnodi ai peidio

Diwedd y sesiwn

ai_session and ai_user

Y wefan

Mae'n dilyn defnyddwyr wrth iddynt symud o amgylch y wefan, yn bennaf er mwyn asesu sut mae’r seilwaith yn perfformio.

1 diwrnod

DisplayName

Y wefan

Mae'n cadw cofnod o b'un a yw rhoddwyr am ddangos eu henwau yn ystod Debyd Uniongyrchol.

Diwedd y sesiwn

IDE,  DSID,

_ct_rmm

Doubleclick.net

Rheolir y cwcis hyn gan DoubleClick, sef llwyfan hysbysebu a ddefnyddir gennym i arddangos hysbysebion. Maent yn ein helpu i nodi pa ymwelwyr â’n gwefan sydd wedi gweld un o’n hysbysebion neu wedi clicio ar un ohonynt.

2 flynedd o'r dyddiad y'i gosodwyd/diweddarwyd

__cfduid

CloudFlare

Mae'n adnabod cleientiaid unigol y tu ôl i gyfeiriad IP a rennir ac yn cymhwyso gosodiadau diogelwch fesul cleient

365 diwrnod

 

Cwcis a ddefnyddir gan drydydd partïon

Os ewch i dudalen ar ein gwefan lle y ceir cynnwys wedi'i fewnblannu, efallai yr anfonir cwcis atoch o'r gwefannau hyn. Er enghraifft, clicio ar fideos YouTube, neu ddefnyddio botymau ‘rhannu’ sy'n galluogi defnyddwyr i rannu cynnwys tudalennau gwe yn hawdd drwy rwydweithiau poblogaidd megis Facebook a Twitter. Efallai y bydd y gwefannau hyn yn gosod cwci pan fyddwch wedi'ch mewngofnodi yn eu gwasanaeth.

 

Nid ydym yn rheoli'r broses o osod y cwcis hyn ac, felly, rydym yn awgrymu eich bod yn edrych ar wefan y trydydd parti i weld a oes rhagor o wybodaeth am eu cwcis a sut i'w rheoli.