Fel arfer, data personol yw unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ac unrhyw wybodaeth am unigolyn adnabyddadwy neu sy'n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy. Gall hyn gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost neu ddata lleoliad o ddyfeisiau electronig (megis ffonau symudol neu gyfeiriadau IP) ond nid yw'n gyfyngedig iddynt.

Mae data personol ‘categori arbennig’ yn ymwneud â gwybodaeth sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu gredoau tebyg, aelodaeth o undeb llafur, cyflyrau corfforol neu gyflyrau iechyd meddwl, bywyd rhywiol, cyfeiriadedd rhywiol, a data biometrig neu enetig. Dylai data personol sy'n ymwneud â throseddau ac euogfarnau troseddol hefyd gael eu trin fel data personol categori arbennig.