Gwelliant Gwasanaeth

Efallai eich bod wedi clywed am adolygiad diweddar o’r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau yma i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith y byddwn yn ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf i wella ein gwasanaeth ac yn anochel achub mwy o fywydau.

Amlygodd yr adolygiad sut na allwn gyrraedd rhwng 2 neu 3 o gleifion y dydd ac nad yw ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae'n hanfodol mynd i'r afael â mater angen nas diwallwyd.

Mae'n debyg bod gennych chi llawer o gwestiynau am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Gobeithiwn y bydd y safle hwn yn rhoi’r atebion hynny i chi, yn rhoi tawelwch meddwl i chi ac yn rhoi’r cyfle i chi ddarganfod mwy am y gwaith rydym yn ei wneud.

Mae'n bosibl eich bod wedi clywed am adolygiad a gynhaliwyd yn ddiweddar o'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru. Lluniwyd y dudalen Cwestiynau Cyffredin hon i'ch helpu i ddeall mwy am y gwelliant i'n gwasanaeth a fydd yn achub mwy o fywydau yn eich cymuned a ledled Cymru.

 

Pwy yw Ambiwlans Awyr Cymru?

Darperir gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae'r Elusen yn codi'r arian er mwyn gweithredu'r hofrenyddion a'r cerbydau ymateb cyflym (£11.2 miliwn bob blwyddyn). Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Caiff ein gwasanaeth sy'n achub bywydau ei ddarparu drwy'r awyr ac ar y ffyrdd. Mae gennym bedwar hofrennydd a fflyd o gerbydau ymateb cyflym. Maent wedi'u lleoli yng Nghaernarfon, y Trallwng, Dafen (Llanelli) a Chaerdydd ar hyn o bryd.

Yn 2024, rydym yn disgwyl cyrraedd carreg filltir arbennig, sef y byddwn wedi ymateb i gyfanswm o 50,000 o alwadau. Mae ein criwiau yn ymateb i oddeutu 4,000 o ddigwyddiadau bob blwyddyn ledled Cymru, gan helpu cleifion ble bynnag a phryd bynnag y bydd ein hangen arnynt.

 

Beth mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud?

Caiff ein gwasanaeth ei arwain gan feddygon ymgynghorol, sy'n golygu ein bod yn mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. Gall hyn fod yng Nghymru neu mewn canolfannau triniaeth arbenigol yn Lloegr. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella yn sylweddol.

Mae ein gwasanaeth yn ymateb i alwadau brys ar y lefel uchaf, sy'n ymwneud â digwyddiadau sy'n bygwth bywyd neu lle gallai'r claf golli coes neu fraich. Rydym yn ymateb i lai nag 1% o bob galwad 999 i Ganolfan Gyswllt Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Rydym yn wasanaeth Cymru gyfan. Gan mai dim ond pedwar tîm sy'n gweithio ledled y wlad, rydym yn adnodd prin, hynod arbenigol. Felly, bydd ein criwiau ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Nid yw ein gwasanaeth yn disodli Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth hwnnw. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ambiwlans ffordd yn cyrraedd safle digwyddiad cyn i'n criwiau ni gyrraedd. Yn y gadwyn gofal mewn argyfwng, meddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sy'n cynnig y gofal brys cychwynnol. Ambiwlans Awyr Cymru yw'r ddolen nesaf yn y gadwyn, gan ddarparu triniaethau uwch o safon ysbyty cyn i gleifion gyrraedd yr ysbyty hyd yn oed.

 

Pam oedd angen cynnal adolygiad?

Datgelodd Adolygiad annibynnol o'n partneriaid yn y GIG bod cyfleoedd i wella ein gwasanaeth i gleifion ledled Cymru. Arweiniwyd yr adolygiad gan Brif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Stephen Harrhy.

Nododd yr Adolygiad y pwyntiau canlynol:

·       Ar hyn o bryd, nid ydym yn cyrraedd rhyw 2 neu 3 unigolyn bob diwrnod. Bydd y cleifion hyn mewn sefyllfa sy'n bygwth bywyd neu lle gallai'r claf golli coes neu fraich.

·       Nid oes gwasanaeth ambiwlans awyr lleol ar gael i bobl yn rhannau gogleddol Canolbarth Cymru a Gogledd Cymru yn ystod y nos. Maent yn dibynnu ar wasanaeth gyda'r nos o Dde Cymru.

·       Nid yw timau meddygol hynod fedrus y gwasanaeth sydd wedi'u lleoli yn y Trallwng a Chaernarfon yn cael eu defnyddio ddigon.

Roedd un o bwyllgorau GIG Cymru, sef y Cyd-bwyllgor Comisiynu, yn cytuno y dylid gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth ambiwlans awyr presennol yng Nghymru.

 

Pa welliannau fydd yn cael eu gwneud i'r gwasanaeth?

 

Ym mis Ebrill 2024, cytunodd y Cyd-bwyllgor Comisiynu y dylid gwneud y newidiadau canlynol.

 

·       Dylid cyfuno adnoddau presennol Caernarfon a'r Trallwng mewn un orsaf yng nghanol Gogledd Cymru, ger yr A55.
 

·       Bydd dau dîm yn gweithredu o'r orsaf newydd. Er mwyn ateb patrwm y galw, bydd un tîm yn gweithredu rhwng 8am ac 8pm a bydd y tîm arall yn gweithredu rhwng 2pm a 2am.

 

Mae hyn yn golygu y bydd dau griw a dau hofrennydd yn gweithredu – yr un adnoddau a gaiff eu defnyddio yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru ar hyn o bryd – ond y byddant yn gallu achub mwy o fywydau drwy newid eu dull gweithredu.

 

 

 Sut y bydd hyn y gwella'r gwasanaeth ambiwlans awyr?

 

·       Byddwn yn gallu cyrraedd mwy o gleifion, sy'n golygu y bydd mwy o fywydau'n cael eu hachub.
 

·       Bydd gwasanaeth dros nos ar gael i rannau gogleddol Canolbarth Cymru a Gogledd Cymru sy'n agosach atynt, yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar yr unig griw dros nos sy'n gweithredu ar hyn o bryd, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd.
 

·       Rydym yn gwneud defnydd gwell o'n hadnoddau ac yn defnyddio eich rhoddion hael yn fwy effeithiol er budd mwy o bobl.

 

 

Pryd y bydd y gwelliannau hyn yn cael eu rhoi ar waith?

 

Gan fod cyfle sylweddol i achub mwy o fywydau ledled Cymru, bydd Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS yn dechrau cydweithio ar unwaith i gynllunio ac i roi'r argymhellion hyn ar waith. Dylid gallu cwblhau'r gwaith i agor gorsaf newydd o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

 

 

A fydd rhannau gogleddol Canolbarth Cymru a Gogledd-orllewin Cymru yn colli gwasanaeth?

 

Na.

 

Ni fydd unrhyw un yn colli gwasanaeth. Bydd rhannau gogleddol Canolbarth Cymru a Gogledd-orllewin Cymru yn gweld gwelliant, yn enwedig yn y gwasanaeth sydd ar gael yn ystod y nos.

 

Mae tystiolaeth gynhwysfawr yn dangos y gellid achub mwy o fywydau yn y rhanbarthau hyn yn sgil y gwelliannau i'r gwasanaeth.

 

Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn y GIG a chynrychiolwyr o'ch cymunedau i fonitro a gwerthuso'r gwelliant hwn i'r gwasanaeth dros y blynyddoedd nesaf.

 

 

Sut y bydd hyn yn effeithio ar eich amseroedd ymateb?

 

Ni ddisgwylir i Ambiwlans Awyr Cymru gydymffurfio â'r amseroedd ymateb sydd wedi'u pennu i ambiwlansys. Wrth ystyried ein gwasanaeth arbenigol, mae'n bwysig cofio'r pwyntiau canlynol:

 

 

·       Rydym yn wasanaeth Cymru gyfan

 

Mae unrhyw sylw am amseroedd ymateb hirach yn sgil symud gorsaf yn tybio ein bod yn gweithredu o un safle penodol. Mewn gwirionedd, gall unrhyw un o griwiau Ambiwlans Awyr Cymru ymateb i ddigwyddiad, ni waeth ble y maent yng Nghymru.

 

Nid lleoliad yr orsaf sy'n bwysig, ond yn hytrach y lleoliad y mae angen i ni ei gyrraedd, y triniaethau hanfodol rydym yn eu rhoi yn y lleoliad a'n gwaith yn cludo cleifion yn syth i'r cyfleuster gofal iechyd sy'n darparu ar gyfer eu hanghenion arbenigol.

 

 

·       Nid cyrraedd y lleoliad cyn pawb arall yw'r nod

 

Fel arfer, bydd ein cydweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn cyrraedd y lleoliad cyn i'n criwiau ni gyrraedd, gan gynnig y triniaethau brys cychwynnol. Ni yw'r ail gam, gan gyrraedd a darparu triniaethau uwch o safon ysbyty.

 

Felly, er bod cyflymder yr ymateb yn bwysig wrth ystyried salwch neu anafiadau sy'n bygwth bywydau a rhannau o'r corff, nid diben Ambiwlans Awyr Cymru yw darparu gwasanaeth ymateb cyntaf i'r digwyddiadau hyn. Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sy'n gyfrifol am hynny o hyd.

 

 

·       Rydym eisoes yn arbed cryn dipyn o amser wrth roi gofal arbenigol i gleifion

 

Mae'n bwysig cofio hefyd ein bod eisoes yn arbed cryn dipyn o amser – oriau mewn rhai achosion – drwy ddarparu triniaethau o safon ysbyty yn y lleoliad a chludo'r claf yn uniongyrchol i'r lleoliad gofal arbenigol er mwyn iddo gael y driniaeth gywir.

 

Wrth gwrs, mae angen i ni ddarparu ein gwasanaeth mewn modd amserol ond nid yw lleihau'r amseroedd ymateb o ychydig funudau ac eiliadau yn angen clinigol. Rydym wedi profi bod ein presenoldeb yn gwella'r tebygolrwydd y bydd claf yn goroesi ac yn gwella yn yr hirdymor yn sylweddol – ac mae'n bwysig cydnabod bod y gwelliant hwn yn berthnasol o gymharu ag achosion sy'n defnyddio gwasanaeth ambiwlans safonol/trefniadau safonol ar gyfer derbyn claf i’r ysbyty. Dyma pam ei bod yn bwysig sicrhau y gall ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol yng Nghymru elwa ar ein sgiliau a'n harbenigedd.

 

Byddwn yn darparu'r gwasanaeth yn yr un modd o hyd ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd y gwelliannau hyn i'r gwasanaeth yn cael effaith negyddol ar ganlyniadau cleifion mewn unrhyw ran o Gymru.

 

 

A fydd y gwasanaeth yn dod i ben yng Nghanolbarth a Gogledd-orllewin Cymru?

Na.

Ni fydd unrhyw un yn colli gwasanaeth. Bydd rhannau gogleddol Canolbarth Cymru a Gogledd-orllewin Cymru yn gweld gwelliant, yn enwedig yn y gwasanaeth sydd ar gael yn ystod y nos.

Mae tystiolaeth gynhwysfawr yn dangos y gellid achub mwy o fywydau yn y rhanbarthau hyn yn sgil y gwelliannau i'r gwasanaeth.

Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn y GIG a chynrychiolwyr o'ch cymunedau i fonitro a gwerthuso'r gwelliant hwn i'r gwasanaeth dros y blynyddoedd nesaf.

Fel rhan o'r Adolygiad o'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), argymhellwyd hefyd y dylid datblygu'r ddarpariaeth cerbydau ymateb cyflym ymhellach gan gynyddu nifer y galwadau y gallwn ymateb iddynt ar y ffordd. Darperir y gwasanaeth hwn fel un o wasanaethau'r GIG.

 

A yw Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth rhanbarthol?

Nac ydy.

Gwasanaeth Cymru gyfan yw Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym yn wasanaeth prin, hynod arbenigol. Bydd ein criwiau, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio i unrhyw ran o Gymru i ddarparu eu triniaethau achub bywyd.

Nod EMRTS yw darparu gwasanaeth teg ledled Cymru. Mae'r asedau awyr ar gael i'r boblogaeth gyfan. Mae'r gwasanaeth ffordd yn fwy cyfyngedig oherwydd cyfyngiadau'r rhwydwaith ffyrdd, topograffi a lleoliadau'r gorsafoedd.

Mae'r Cyd-bwyllgor Cydweithredol hefyd wedi cymeradwyo gwaith i ddatblygu cynnig comisiynu ar gyfer gwasanaethau ychwanegol a/neu wasanaethau gofal critigol pwrpasol ar y ffordd mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd anghysbell.

 

 

A fyddwch yn lleihau nifer yr hofrenyddion?

Na. 

Byddwn yn parhau i ddarparu ein gwasanaeth gyda phedwar hofrennydd a fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

 

 

Ai mater o dorri costau yw hyn?

Na.  

Gwnaethom nodi'n glir o'r cychwyn cyntaf mai diben yr Adolygiad oedd gwneud y gorau o'r asedau a'r adnoddau presennol. Ein hunig nod yw gwella ein gwasanaeth i bawb yng Nghymru.

Ble gallaf ddarllen yr Adolygiad ac astudio'r dystiolaeth?

Gallwch ddarllen adroddiad llawn Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans yn https://pgab.gig.cymru/ymrwymiad/age/ 

 

Pam nad yw'r elusen wedi siarad yn gyhoeddus am yr adolygiad tan nawr?

Cafodd yr Adolygiad o'r EMRTS ei arwain yn annibynnol gan Brif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Rydym wedi parchu annibyniaeth y broses. Ni wnaethom gymryd unrhyw ran uniongyrchol yn yr Adolygiad (a oedd yn canolbwyntio ar ein partneriaid yn y GIG, EMRTS) a gwnaethom osgoi gwneud unrhyw sylwadau arno. Mae hyn wedi bod yn anodd i ni.

Mae rhai cymunedau o rannau gogleddol o Ganolbarth Cymru a Gogledd-orllewin Cymru wedi rhannu eu pryderon am newid posibl yn ystod y tri chyfnod ymgysylltu â'r cyhoedd a gynhaliwyd fel rhan o'r Adolygiad.

Rydym yn cydymdeimlo'n llwyr â'r gofidiau a'r pryderon gwirioneddol a fynegwyd mewn perthynas â darpariaeth gofal Sylfaenol ac Eilaidd ehangach y GIG yn y rhanbarthau hyn. Fel gwasanaeth bach iawn sy'n hynod arbenigol, dim ond rhan fach o'r gwasanaeth gofal brys ehangach a ddarperir cyn i gleifion gael eu derbyn i'r ysbyty yw ein gwasanaeth ni. Prin iawn yw'r hyn y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â llawer o'r pryderon hynny ac ni ddylem fod yn gyfrifol ychwaith am gau'r bylchau yn narpariaeth y GIG. Rydym wedi tynnu sylw Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans at hyn, a chawsom sicrwydd ganddo fod y materion hyn wedi cael eu hanfon ymlaen at y cynrychiolwyr priodol yn y GIG er gwybodaeth iddynt ac er mwyn iddynt fynd i'r afael â nhw.

Nawr bod Cyd-bwyllgor Comisiynu'r GIG wedi gwneud penderfyniad, gallwn ateb eich cwestiynau ac ymateb i'ch pryderon.

Yn ystod cyfnod yr adolygiad, sef cyfnod o 18 mis, cafodd llawer o gamwybodaeth ei rhannu am ddyfodol ein gwasanaeth – rydym yn gobeithio y gallwn roi tawelwch meddwl i chi wrth esbonio ein bwriadau a'n blaenoriaethau.

Rydym am fod yn agored ac yn dryloyw wrth i ni symud ymlaen a byddwn yn eich cynnwys ar ein taith, bob cam o'r ffordd, wrth i ni weithio tuag at wella ein gwasanaeth achub bywydau yn ystod y blynyddoedd nesaf.

 

Beth mae penderfyniad y Cyd-bwyllogr Comisiynu yn ei olygu i'r Elusen?

Gallwn nawr symud ymlaen â'r gwaith o ddatblygu gwelliannau i'r gwasanaeth, sy'n cynnwys creu gorsaf newydd. Rydym yn credu y gellir cyflawni hyn o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Dyma ddechrau'r daith i leihau nifer yr anghenion na chânt eu diwallu ledled Cymru. Mae mwy y gallwn ei wneud, a byddwn yn gweithio gyda phob un o'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i sicrhau y gallwn achub cymaint o fywydau â phosibl.

Byddwn yn dechrau'r broses o gynllunio ar gyfer cyfleuster newydd ar unwaith. Byddwn yn gwneud hyn ar y cyd â chydweithwyr meddygol a hedfan ein gwasanaeth er mwyn creu gorsaf sy'n diwallu eu hanghenion.

Byddwn hefyd yn ymgysylltu â Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru a fydd yn nodi'r cynllun gweithredu yn fanylach. Bydd hyn yn cynnwys cerrig milltir a therfynau amser allweddol.