Fy enw i yw Richard Jones. Dydych chi ddim yn f’adnabod ond, oni bai am gefnogaeth pobl garedig fel chi, mae’n debygol na fyddwn yma heddiw.

Wrth deithio i waith, cefais ddamwain wnaeth achosi anafiadau trychinebus. Fe wnaeth y gofal cynnar a gefais gan y criw Ambiwlans Awyr Cymru, heb os, achub fy mywyd.

Newidiodd fy mywyd mewn eiliad.

Fe wnaeth Ambiwlans Awyr Cymru hedfan i'r safle. Ar ôl cyrraedd, fe welodd Dr Bob Tipping a'r Ymarferydd Gofal Critigol Marc Allen arwyddion o waedu mewnol.

Ar ochr y ffordd, fe wnaethon nhw roi chwe uned o waed i mi, ac oherwydd difrifoldeb f'anafiadau, yn enwedig fy nghoes, rhoesant anesthetig cyffredinol imi a'm rhoi ar beiriant anadlu.

Cefais fy nhrosglwyddo i'r ganolfan arbenigol agosaf. Ers y ddamwain, rwyf wedi cael gwybod tra oedd hyn yn digwydd fy mod i'n ddifrifol wael ac yn ansefydlog iawn pan benderfynwyd torri rhan o fy nghoes dde i ffwrdd.

Fyddwn i ddim yma’r Nadolig yma heb yr elusen.

Rwyf wastad wedi clywed straeon am yr holl bethau anhygoel mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn eu gwneud. Wnes i erioed meddwl y byddwn i, yn bersonol, angen eu cymorth. Pe na fydden nhw wedi hedfan i leoliad fy namwain y diwrnod hwnnw a rhoi’r gofal critigol cynnar i mi, fyddwn i ddim yma’r Nadolig hwn.

Ers fy namwain, dwi wedi gorfod dysgu ffordd hollol newydd o fyw, dwi wedi dysgu cerdded gyda choes brosthetig, a dwi’n cymryd mwy o amser i fi fy hun- a ddim yn rhuthro cymaint ag o’n i o’r blaen, mae gen i ddyddiau da a dyddiau gwael.

Mae’r tîm Ambiwlans Awyr Cymru wedi f’ysbrydoli ac wedi
fy helpu cymaint. Rwy’n rhoi yn ôl yn fy ffordd fy hun – rwy’n rhoi cefnogaeth i bobl eraill sydd wedi gorfod cael coes neu fraich wedi ei thorri i ffwrdd, ac yn ddiweddar, gymerais ran mewn cystadleuaeth pysgota i godi arian i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru; mae pysgota wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi mwynhau erioed.

Yr anrhegion Nadolig gorau.

I mi, fy ngwyrth Nadolig yw fy mywyd, ac wrth wella yn yr ysbyty fe ddes i adnabod nyrs sydd bellach wedi dod yn fam i'n bachgen bach annwyl.

Yn sicr mae fy nheimladau tuag at y Nadolig wedi newid ers y damwain. Er fy mod i'n trio peidio, fe welwch eich hun yn meddwl 'beth os'. Dydw i ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol fel roeddwn i'n arfer gwneud.

Bydd yn achlysur arbennig iawn i mi a fy nheulu eleni, gan mai dyma Nadolig cyntaf fy mab. Oni bai am yr Ambiwlans Awyr Cymru fyddwn i ddim yma heddiw, a fysa fy mab heb wedi cael ei eni. Edrychaf ymlaen at dreulio amser gyda fy nheulu a ffrindiau, a mwynhau llawer o fwyd blasus- yn enwedig 'pigs in blankets'!

Diolch.

Roedd o'n syndod i mi ddarganfod, er y gwaith anhygoel y maent yn gwneud, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei hariannu gennych chi, bobl Cymru, yn unig.

Maen nhw'n gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, hyd yn oed ar ddydd Nadolig. Er y byddai yn tuckio mewn i fy nghinio Nadolig ac yn mwynhau amser gyda'r rhai rwy'n caru, byddaf yn meddwl am y rhai sydd wedi rhoi'r gorau i'w Nadolig er mwyn achub bywydau.

Ystyriwch gyfrannu at y gwasanaeth a'u helpu i achub mwy o fywydau'r Nadolig hwn. Fel fi, dydych chi byth yn gwybod pryd y gallech chi eu hangen. Diolch.

Yn gywir,

Richard Jones

Richard Jones
Goroeswr Ambiwlans Awyr Cymru