Mae'n Wythnos Genedlaethol yr Ambiwlans Awyr yr wythnos hon (7-13 Medi) Mae'n cynnig cyfle i dynnu sylw at y gwasanaeth achub bywydau a ddarperir gan Ambiwlans Awyr Cymru.

Drwy gydol yr wythnos, byddwn yn rhannu gwybodaeth am Ambiwlans Awyr Cymru ac yn clywed gan gleifion sydd wedi defnyddio ein gwasanaeth. Mae meddygon ymgynghorol arbenigol, ymarferwyr gofal critigol, ymarferwyr trosglwyddo hofrenyddion a pheilotiaid yr Elusen yn teithio ar ein hofrenyddion, ac yn sicrhau bod diogelwch a llesiant pob claf yn cael blaenoriaeth.

Rydym yn gofyn i chi ein cefnogi gan fod 'pob eiliad yn cyfrif'. Nid ydym yn cael unrhyw gyllid uniongyrchol rheolaidd gan y Llywodraeth. Chi, bobl Cymru, sy'n cadw ein hofrenyddion yn yr awyr. Hebddoch chi, ni fyddai'r gwasanaeth achub bywydau hwn yn cael ei gynnig.

Mae eich cefnogaeth barhaus yn achub bywydau pobl yng Nghymru sy'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddifrifol pan fo angen help arnynt fwyaf. 

Yn ystod COVID-19, rydym ni, fel llawer o elusennau, wedi gweld gostyngiad sylweddol o ran rhoddion oherwydd bod siopau wedi gorfod cau, ac am fod digwyddiadau bwcedi casglu arian a digwyddiadau eraill wedi cael eu canslo. Gallwch ein helpu o hyd o gysur eich cartref drwy ein cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae Wythnos yr Ambiwlans Awyr yn gyfle i chi ddysgu mwy am eich Elusen a sut y gallwch ein cefnogi. Mae hefyd yn gyfle i ni ddiolch i chi am ein cadw yn yr awyr.

 

Gallwch roi arian yma