Beth yw'r Loteri Achub Bywyd? Expand Raffl wythnosol yw Loteri Achub Bywyd Ambiwlans Awyr Cymru a gaiff ei chynnal l gan Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn codi arian ar ein cyfer, gan gynnig cyfle i chi ennill £1,000 ar yr un pryd.
Sut y gallaf chwarae? Expand Mae cofrestru ar gyfer ein Loteri yn hawdd. Opsiwn 1: Lawrlwythwch, argraffwch ac anfonwch ffurflen loteri wedi’i chwblhau atom. Opsiwn 2: Ffoniwch 0300 0152 999 a byddwn yn eich helpu dros y ffôn. Opsiwn 3: Gallwch gofrestru’n syth drwy ddebyd uniongyrchol yma.
Pam mae’r taliad yn £4.34 y mis? Expand Mae’n costio £1 yr wythnos i chwarae’r loteri. Tra bo’r rhan fwyaf o fisoedd yn cynnwys 4 wythnos, mae rhai misoedd yn cynnwys 5 wythnos. Mae’r £0.34 ychwanegol ar gyfer y misoedd sy’n cynnwys wythnos ychwanegol.
Beth yw’r gwobrau? Expand Bob wythnos, mae yna brif wobr sicr o £1,000; ynghyd ag ail wobr o £200; trydedd wobr o £100; ac 20 gwobr o £10.
A oes peryg y byddaf byth mewn dyled i Ambiwlans Awyr Cymru? Expand Nac oes. Os nad ydych wedi talu, ni fyddwch yn cael eich cynnwys yn y raffl.
Sut mae’r raffl yn gweithio? Expand Ar yr amod eich bod wedi talu £1 am bob raffl a dynnir ar ddydd Gwener, bydd pob un o’ch rhifau unigryw yn cael eu cynnwys yn y raffl electronig. Bydd y cyfrifiadur yn dewis rhifau chwe digid ar hap ac yn eu cymharu â rhifau ein haelodau. Os yw eich rhifau'r un fath, yna byddwch yn ennill gwobr; bydd y drefn y mae’r rhifau yn cyfateb yn dynodi maint y wobr.
Sut y caiff yr elw ei ddefnyddio? Expand Caiff ein Loteri ei rheoli’n fewnol, ac mae holl elw o’r Loteri Achub Bywyd yn mynd tuag at ariannu gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.
A fyddwch yn rhannu fy manylion ag unrhyw un arall? Expand Ni fydd Ambiwlans Awyr Cymru yn rhannu eich manylion personol â thrydydd parti ar unrhyw adeg, dim ond pan fydd hynny’n ofynnol gan ddeddfwriaeth sydd mewn grym ar y pryd a gyda chaniatâd Prif Weithredwr yr elusen. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein polisi preifatrwydd.
Sut mae'r loteri wedi'i reoleiddio? Expand Mae’r Loteri Achub Bywyd wedi’i thrwyddedu gan y Comisiwn Hapchwarae. I gael rhagor o wybodaeth am y Comisiwn Hapchwarae, ewch i http://www.gamblingcommission.gov.uk
Ble y gallaf gael cyngor ar gamblo? Expand Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein loteri yn cael ei chynnal mewn ffordd ddiogel, deg a chyfrifol, ac i gefnogi gamblo cyfrifol ymysg yr aelodau. Gallwch ddarllen ein polisi llawn ar Gyfrifoldeb Cymdeithasol o ran Gamblo yma; neu am gyngor neu gymorth yn ymwneud â gamblo, ewch i gamcare.org.uk neu ffoniwch y llinell gymorth am ddim ar 0808 8020 133.
A allaf ddewis fy rhifau fy hun? Expand Nid yw’r math hwn o loteri yn caniatáu i chi ddewis eich rhifau eich hun. Bydd rhifau unigryw yn cael eu dyrannu i chi yn awtomatig.