Cyhoeddwyd: 18 Chwefror 2024

Mae ysgol yrru yng ngogledd Cymru wedi cyflwyno siec am dros £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Penderfynodd perchnogion a chyfarwyddwyr Ysgol Yrru Carmel, ger Caernarfon, i gynnal raffl lwyddiannus mewn digwyddiad modur, gyda'r bwriad o rannu'r enillion rhwng Ambiwlans Awyr Cymru ac Epilepsy Action Cymru. 

Llwyddodd y raffl i godi swm anhygoel o £2,100.

Ar ran Ysgol Yrru Carmel, dywedodd Ffion Flynn: "Roeddem eisiau codi arian i'r elusen am fod y gwasanaeth ambiwlans awyr yn un hanfodol i'r rheini yng Ngogledd Cymru. Mae'r ambiwlans awyr yn bwysig iawn i'r rheini yng Ngogledd Cymru am ei fod yn darparu ymateb cyflym i argyfyngau meddygol brys, yn enwedig yn yr ardaloedd nad ydynt yn hawdd eu cyrraedd mewn ambiwlans."

Roedd y raffl elusennol, a oedd yn costio £5 y tocyn, yn cynnig tair gwobr. Derbyniodd yr enillydd cyntaf gwrs o'u dewis gyda phopeth wedi'i gynnwys ynddo - gwybodaeth feddygol, theorïau, hyfforddiant, Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC) cychwynnol yn ogystal â phrawf gyrru.

Derbyniodd y ddau enillydd arall dalebau gwerth £50 ac £20 i'w gwario yn Ysgol Yrru Carmel.

Ychwanegodd Ffion: "Rydym yn falch iawn o fod wedi codi swm mor anhygoel drwy ein raffl, ac yn ddiolchgar iawn am yr holl gymorth a gawsom gan yr unigolion a'r busnesau lleol a brynodd docynnau."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Dywedodd Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, Alwyn Jones: "Roeddem yn falch iawn o dderbyn siec gwerth £1,050 yn ein gorsaf awyr yng Nghaernarfon. Diolch yn fawr iawn i Ysgol Yrru Carmel nid yn unig am godi'r arian hanfodol i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau, ond am godi arian hefyd i elusen Gymreig arall. Bydd y gefnogaeth gan yr ysgol yrru yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru. Diolch yn fawr, bawb.”