Mae Ysgol Gwaun Cae Gurwen wedi mynd ati i gefnogi Calan-James Rees, un o ddisgyblion ei hysgol feithrin, drwy godi £100 tuag at ei ymgyrch codi arian.

Bydd Calan-James, y bachgen pedair oed dewr o Gastell-nedd, yn cerdded i fyny copa uchaf De Cymru – Pen y Fan – flwyddyn ers marwolaeth ei dad er mwyn codi arian i'r Elusen a frwydrodd i achub ei fywyd.

Mae Calan-James Rees, a fydd yn cerdded i fyny'r mynydd ym Mannau Brycheiniog gyda'i fam, Gemma Lewis, fis nesaf, wedi codi £562 o'i darged codi arian hyd yn hyn gyda chymorth gan ei ysgol, er cof am ei dad, Sam Rees, a fu farw yn dilyn damwain beic modur oddi ar y ffordd yn Nhai'r-gwaith.

Dywedodd ei fam falch, Gemma, fod staff yr ysgol wedi codi'r arian ar ran teulu Calan: “Rwy'n hynod ddiolchgar i'r ysgol am gefnogi Calan, yn ogystal ag am gefnogi'r elusen. Mae'n wych.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.           

Cododd disgyblion Ysgol Gwaun Cae Gurwen yr arian drwy gymryd rhan mewn taith cerdded o amgylch yr ysgol.

Mae'r teulu'n gobeithio codi £1,000 ar gyfer y gwasanaeth sy'n achub bywydau a ddaeth i helpu Sam o fewn saith munud o dderbyn yr alwad. 

Dywedodd Martin Evans, y Pennaeth: “Mae mam Calan, yn ogystal â staff y feithrinfa sy'n addysgu Calan, wedi bod yn gefnogol iawn. Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel.

“Mae Calan yn fachgen bach gwych sydd wedi wynebu'r peth gwaethaf a allai fod wedi digwydd, ag yntau mor ifanc. Drwy gryfder ei bersonoliaeth fywiog a dewr, mae wedi dangos i ni fod pethau da yn gallu digwydd. Mae'r ysgol a'r staff yn hynod falch o Calan, Gemma a'i deulu. Byddai ei dad wedi bod yn falch iawn ohono.”

Caiff y daith gerdded ei chynnal ddydd Llun, 30 Awst am 10am. Mae Gemma wedi dweud bod croeso i unrhyw un gerdded gyda nhw. 

Dywedodd Elin Wyn Murphy, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Diolch o galon i staff Ysgol Gwaun Cae Gurwen sy'n cefnogi Calan drwy'r cyfnod ofnadwy hwn, ac yn cefnogi'r Elusen ar yr un pryd, gan godi £100 tuag at ei ymgyrch codi arian. Mae pob un ohonoch yn helpu i gadw Ambiwlans Awyr Cymru yn yr awyr 24/7. Diolch yn fawr .”

Gallwch gefnogi Calan a'i fam, Gemma, drwy roi arian drwy eu tudalen Just Giving, sef Calan's Pen y Fan Walk.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, gan gynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.