Anrhydeddwyd elusen Ambiwlans Awyr Cymru gan Wobr yr Uwch Siryf yn ddiweddar am ei gwasanaethau i bobl Morgannwg Ganol.

Cyflwynwyd y wobr i'r Gwasanaeth gan Uwch Siryf Morgannwg Ganol, Jeff Edwards MBE, ym mis Tachwedd yn ystod ei ymweliad â Hofrenfa Caerdydd.

Dywedodd Mr Morgan: "Cafodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei henwebu gan aelod o'r cyhoedd am y gwasanaeth a ddarperir ganddi yn ein cymuned. Rydym yn cydnabod eich gwaith, wrth fynd â phobl sy'n ddifrifol sâl, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell, i'r ysbyty, gan achub lawer o fywydau.

"Mae'n wych gweld bod y gwasanaethau a ddarperir gennych wedi ehangu'n sylweddol ers eich sefydlu 20 mlynedd yn ôl, diolch i gyfraniadau hael gan y cyhoedd. Mae'n destament i werthfawrogiad y cyhoedd o'ch gwaith.

"Drwy roi'r wobr hon, mae'n bleser gennyf gydnabod y gwaith rydych yn ei wneud er budd y gymuned ac yn dymuno pob llwyddiant i chi at y dyfodol."

Cafodd y wobr ei derbyn ar ran y Gwasanaeth gan Gadeirydd Ymddiriedolwyr yr Elusen, Dave Gilbert. Dywedodd: “Mae'n anrhydedd enfawr i ni gael y gydnabyddiaeth hon. Mae'r Elusen, EMRTS a Babcock yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth hanfodol i Gymru ac mae'n galonogol gwybod bod ein gwaith yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Un o'n cryfderau yw cysylltiad dwfn â chymunedau amrywiol ledled Cymru. Felly mae cael ein henwebu gan gymunedau yn hen sir Morgannwg Ganol yn beth arbennig.

“P'un a ydych yn un o gyflogeion y gwasanaeth neu'n wirfoddolwr, eich gwobr chi yw hon. Llongyfarchiadau a diolch.”

Yn ystod ei ymweliad, cafodd yr Uwch Siryf weld cyfleusterau Hofrenfa Caerdydd, dan ofal yr Ymarferydd Gofal Critigol Caroline Arter a'r peilotiaid Chris Morley a Jonathan Deibel. Cyfarfu hefyd â Phrif Weithredwr yr Elusen, Sue Barnes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS, David Lockey, Cyfarwyddwr Gweithrediadau EMRTS, Mark Winter a Chyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol yr Elusen, Steven Stokes.

Swydd annibynnol ac anwleidyddol am dymor o flwyddyn yw Swydd yr Uwch Siryf, a benodir gan y Frenhines. Mae gwreiddiau'r swydd yn dyddio'n ôl i oes y Sacsoniaid, pan oedd 'Prif Ynad y Sir' yn atebol i'r Brenin am gynnal cyfraith a threfn yn y sir, ac am gasglu a dychwelyd trethi a oedd yn ddyledus i'r Goron. 

Er bod dyletswyddau'r rôl wedi esblygu, mae cefnogi'r Goron a'r farnwriaeth yn elfennau canolog ohoni hyd heddiw. Yn ogystal, mae Uwch Siryfion yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth weithredol i asiantaethau atal troseddau, y gwasanaethau brys a'r sector gwirfoddol.