Cyhoeddwyd: 27 Mawrth 2024

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru leoedd elusennol am ddim ar gael i redwyr sydd eisiau cefnogi'r elusen ddydd Sul 6 Hydref 2024.

Mae Tîm Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithio tuag at ei nod o godi arian ar gyfer ei wasanaeth sy'n achub bywydau, ac yn cynnig lleoedd i ymgymryd â Hanner Marathon Caerdydd, sef un o ddigwyddiadau torfol mwyaf Cymru.

Mae'r Elusen, sy'n darparu gofal critigol uwch ledled Cymru, yn cael ei darparu drwy bartneriaeth rhwng Sector Cyhoeddus a Thrydydd sector unigryw rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

Caiff ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf.

Mae Mike Hughes, sy'n athro, yn gefnogwr mawr o'r elusen, ac wedi bod ers i'r elusen hedfan ato yn ôl yn 2005 yn dilyn gwrthdrawiad mewn rali.

Penderfynodd Vicki ei wraig ag ef, sy'n wreiddiol o'r Wyddgrug, i redeg eu Hanner Marathon cyntaf fis Hydref diwethaf fel ffordd o ddweud diolch - gan godi dros £1,500 yn cynnwys Cymorth Rhodd.

Dywedodd Mike: "Pan roeddwn yn gorwedd yn fy ngwely ar Noson Tân Gwyllt 2005, heb yn wybod lle roeddwn i na phwy oedd fy rhieni, gwnes addo i fy hun y byddwn yn cefnogi'r Elusen a achubodd fy mywyd am byth.

“Rwyf wedi bod yn lwcus o allu byw bywyd normal ac mae hynny oherwydd gweithredoedd Ambiwlans Awyr Cymru. Byddaf yn ddyledus iddyn nhw am byth."

Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.

Gallwch chi fod yn un o'r rheini a fydd yn sefyll wrth linell ddechrau ras Hanner Marathon Caerdydd eleni os byddwch yn addo codi o leiaf £200 ar gyfer yr elusen.

Mae'r cwrs 13.1 milltir yn mynd heibio rhai o dirnodau mwyaf eiconig y brifddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, a Bae Caerdydd.

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Byddem wrth ein bodd pe baech yn gallu ein cefnogi yn Hanner Marathon Caerdydd eleni! Mae bob amser yn ddigwyddiad arbennig ac mae'n wych cael gweld prifddinas Cymru yn llawn rhedwyr.

"Mae'r digwyddiad wedi gwerthu allan - ond rydym yn falch iawn ein bod yn gallu cynnig lleoedd am ddim i'r rheini sy'n addo rhedeg ar ran ein helusen.

"P'un a ydych yn ddechreuwr neu'n brofiadol, bydd bob cam y byddwch yn ei gymryd a phob ceiniog y byddwch yn ei chodi, yn achub bywydau."

Bydd y rheini a fydd yn cofrestru ar ran Ambiwlans Awyr Cymru yn cael eu cefnogi i godi arian ar hyd y ffordd, yn cael fest gyda brand yr elusen arni yn ogystal â medal wedi'i harchebu gan drefnwyr y digwyddiad.

Cofrestrwch eich diddordeb drwy wefan yr elusen,  www.walesairambulance.com/cardiffhalf neu drwy anfon e-bost at [email protected].