Mae disgyblion hael o ysgol yng Nghaerdydd wedi llwyddo i godi swm anhygoel o £6,500 i Ambiwlans Awyr Cymru. Cymerodd disgyblion Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth ran yn yr her i godi arian i'r Elusen 24/7 sy'n achub bywydau dros gyfnod o sawl mis. 

Penderfynodd pob dosbarth ar weithgareddau penodol i godi arian gwerthfawr, gan gynnwys syniadau fel teithiau cerdded a gwerthu cacennau. Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Fis Mai, daeth un o feddygon yr Elusen i ymweld â'r ysgol. Mae Ruby Thomas, sy'n ymarferydd gofal critigol, yn fam i ddau ddisgybl yn yr ysgol. Yn ddiweddar, cafodd Ruby wahoddiad i ddod i'r ysgol, pan gyhoeddodd yr ysgol ei bod wedi llwyddo i godi swm enfawr o £6,500, diolch i'w digwyddiadau codi arian. 

Dywedodd Ruby, yn llawn balchder: “Mae holl ddisgyblion Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth wedi gweithio'n hynod galed i godi arian hanfodol i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau. Llwyddodd y plant i godi swm anhygoel dros gyfnod o sawl mis. Er eu bod yn ifanc, mae gan y disgyblion ddealltwriaeth gadarn o waith ein helusen, sy'n achub bywydau pobl yng Nghymru. Roedd y plant yn benderfynol o godi arian, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am godi swm anhygoel o £6,500. Bydd eu cefnogaeth yn ein galluogi i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf – maen nhw'n rhan o'r broses achub bywydau yn fy marn i.  

“Ni allaf ganmol yr ysgol a'i chyfadran ddigon. Mae'r ysgol wedi gwneud argraff arbennig arnaf ers i'm plant ddechrau yno, ac rwy'n teimlo'n hynod ffodus.” 

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Dywedodd Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, Laura Coyne: “Ar ôl iddynt glywed am y gwaith pwysig mae ein Helusen yn ei wneud ar ran pobl Cymru, roedd yn hyfryd bod y plant am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Maent wedi codi swm anhygoel ac rwy'n gobeithio eu bod yn hynod falch o'u hunain. Da iawn bawb.”  

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.   

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.