Cyhoeddwyd: 30 Ionawr 2024

Mae wythnos brecwast ffermdy flynyddol Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi codi swm anhygoel o £17,509 ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn ystod yr ymgyrch codi arian hynod boblogaidd, gwnaeth aelodau FUW gynnal dros 35 o ddigwyddiadau brecwast rhwng 15 a 21 Ionawr 2024. Cafodd aelodau a gwleidyddion fwynhau brecwast blasus, maethlon a chynaliadwy, wrth iddynt sgwrsio am faterion ffermio â staff a swyddogion FUW.

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Undeb Amaethwyr Cymru a'i haelodau am godi arian ar gyfer ein helusen yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ohoni.

“Rydym yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw ein gwasanaeth i gymunedau gwledig ac amaethyddol Cymru. Fel gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan, ein nod yw rhoi'r gofal gorau posibl a all achub bywydau ledled ein gwlad, gan gydnabod anghenion gwahanol ein cymunedau gwledig a threfol ar yr un pryd.

“Mae ein helusen yn gweithio'n galed i sicrhau y gall ein gwaith hanfodol barhau, nid ar gyfer heddiw yn unig, ond ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae ein hymrwymiad i Gymru wledig a'n cysylltiad â hi yn gryf iawn, a bydd hynny'n parhau am byth.

“Rydym hefyd yn cydnabod ac yn ddiolchgar am gyfraniad amhrisiadwy'r gymuned ffermio at gymdeithas Cymru, yn ogystal â'r cynnyrch o ansawdd a gaiff ei fwynhau yma yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd.”

Brecwast yw pryd pwysicaf y dydd ac roedd y digwyddiad codi arian yn gyfle gwych i sgwrsio a rhannu syniadau cyn dechrau'r diwrnod, gan roi hwb i iechyd meddwl pobl yr un pryd.

Cynigiodd wythnos brecwast ffermdy FUW gyfle i hyrwyddo'r cynnyrch lleol o ansawdd a gaiff ei dyfu gan ein ffermwyr drwy'r flwyddyn hefyd.

Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: “Rydym wedi mwynhau wythnos frecwast lwyddiannus arall a hoffwn ddiolch i'r holl staff, aelodau, gwirfoddolwyr ac i'n gwleidyddion ledled Cymru am eu cefnogaeth anhygoel. Gyda'n gilydd, rydym wedi codi swm anhygoel o arian ar gyfer yr elusen bwysig iawn hon sy'n achub bywydau ledled Cymru bob dydd.

“Yn ogystal â chodi swm anhygoel o arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, roeddem hefyd yn gallu tynnu sylw at rôl hanfodol ein ffermwyr a phwysleisio sut maent yn cynnal ein heconomi wledig, drwy arddangos cyrhaeddiad eang y diwydiant. Ni allwn anghofio'r holl resymau y mae ffermio'n bwysig – o safbwynt economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.

“Heb ddiwydiant ffermio ffyniannus, sy'n sicrhau bod bwyd y gallwn ei fforddio ar ein byrddau, byddai ein dyfodol ni a dyfodol ein plant yn edrych yn llwm iawn.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Caiff y gwasanaeth ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.