Ambiwlans Awyr Cymru yn cofio Alun Davies 11 Mehefin 2018 Roedd Alun Davies, yn 60 ac wedi gweithio ar ran Ambiwlans Awyr Cymru ers 2001 a bu farw ar 28ain Mai. Byddwn yn cofio Alun fel aelod o dîm codi'r elusen, yn helpu casglu arian i gynnal y gwasanaeth. Dywedodd prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru, Angela Hughes: “Rydym mor drist i glywed am farwolaeth ein ffrind a chydweithiwr, Alun Davies. Rydym yn cydymdeimlo gyda’i deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Roedd Alun yn aelod hoffus iawn o’r elusen a bydd llawer yn hiraethu amdano. Byddwn yn cofio amdano nid yn unig yn sgil ei ymroddiad ond ei garedigrwydd a’i synnwyr digrifiwch.” Roedd Alun yn wyneb cyfarwydd i lawer yn sgil ei waith gydag Ambiwlans Awyr Cymru ond hefyd fel cynghorydd sir i ward Saron yn Sir Gaerfyrddin. Alun Davies, 1958 – 2018 Manage Cookie Preferences