Cyhoeddwyd: 21 Rhagfyr 2023

Mae un o weithwyr Ambiwlans Awyr Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol 'arweinydd dysgu'.

Daeth Nick Bowen, Partner Busnes Hyfforddiant ac Adnoddau Dynol yr Elusen, i'r brig yn seremoni wobrwyo genedlaethol y Charity Learning Awards.

Ymunodd Nick â'r Elusen bron i ddwy flynedd yn ôl, ac ers ei benodi, mae wedi meddwl am syniad unigryw i ddatblygu dull e-ddysgu'r Elusen. Roedd hyn yn golygu byddai angen i bob aelod o'r staff, hyd yn oed y rheini a oedd wedi cwblhau cyfnod sefydlu eisoes ers cael eu cyflogi, gwblhau'r modiwlau dysgu newydd i sicrhau dull gweithredu cyson a chydlynol ym mhob rhan o'r sefydliad.

Mae trawsnewid digidol yn ffocws allweddol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a chafodd Nick gefnogaeth gan yr uwch-dîm rheoli i ddatblygu ei dulliau e-ddysgu sylfaenol.

Cwblhaodd dros 100 o aelodau o staff yr Elusen eu llwybr sefydlu yn unol â'r amserlen a bennwyd a chafodd pob arweinydd dasg o gwblhau llwybr rheoli, a chyflawnwyd hyn eleni.

Nid dim ond gyda'r Elusen y mae Nick yn gweithio'n galed. Roedd yn benderfynol o rannu ei sgiliau a'i wybodaeth gyda'i gyd-aelodau yn y consortiwm dysgu elusennol a thu hwnt.

Dywedodd Nick yn falch: "Ar lefel bersonol, rwy'n falch iawn o gael ennill y wobr a'r rhan orau yw cael gweld gweledigaeth yn dod yn fyw, ond mae cael cydnabyddiaeth allanol yn fonws go iawn. Mae angen i ni fod yn falch iawn o'r ffaith bod Ambiwlans Awyr Cymru fel elusen wedi cael ei chydnabod ymhlith yr holl elusennau cenedlaethol eraill.

"Mae'r wobr hon yn adlewyrchiad o waith caled cymaint o bobl, ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth pawb."

Hoffai Nick ddiolch yn benodol i'w gydweithwyr - Nick a Kieran o'r tîm TG am eu dealltwriaeth o sut i awtomeiddio pethau, ynghyd â Michael Cove am helpu i greu'r dashfwrdd newydd.

Ychwanegodd: "Mae pawb wedi chwarae rhan, p'un a ydych wedi rhoi adborth, wedi bod yn rhan o'r arbrofi, neu wedi sicrhau bod yr hyfforddiant yn cael ei gwblhau ar amser, mae popeth yn rhan o'r darlun mwy ac yn enghraifft dda o gydweithio.

"Gobeithio bod pob aelod o'n staff yn gallu gweld y gwelliannau rydym wedi eu gwneud i'r hyfforddiant, dysgu a datblygu i'w gwneud nhw'n haws i'w defnyddio ac yn hygyrch, i alluogi'r Elusen i gyflawni ein nodau ar lefel bersonol, ac yn strategol fel Elusen."

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Llongyfarchiadau i Nick am gyflawni ei wobr. Ers i Nick ymuno â'r Elusen, mae wedi dangos pa mor angerddol ydyw am ddysgu a datblygu, ac nid oedd arno ofn gwneud y newidiadau yr oedd angen cael eu gwneud. Rydym yn falch iawn o weld bod gwaith caled Nick wedi cael ei gydnabod, nid yn unig gan yr Elusen a'i staff, ond gan ddysgwyr eraill yn y trydydd sector. Dylai Nick fod yn eithriadol o falch o bopeth y mae wedi ei gyflawni yn ystod ei gyfnod gydag Ambiwlans Awyr Cymru."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol, gan wella'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.