Mae gêm rygbi elusennol a drefnwyd gan un o gyn gleifion Ambiwlans Awyr Cymru wedi codi £6,000.

Trefnodd Richard Jones, o Ddinbych-y-pysgod, y digwyddiad i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a Ffrindiau Ysbyty Treforys, y rhoddodd y ddau ohonynt gymorth iddo a'i deulu ar ôl iddo oroesi damwain traffig ffordd ar yr A40 yn Sir Gaerfyrddin. Collodd rhan o'i goes dde yn dilyn y ddamwain.

Er gwaethaf tywydd heriol, cynhaliodd Clwb Rygbi Penfro y gêm elusennol a drefnwyd gan Richard, a oedd yn arfer chwarae, a daeth torf fawr i'w gwylio.

Cyn y brif gêm rhwng Clwb Rygbi Penfro a charfan wadd Richard, y ‘Misfits’, dangosodd Pantherod Penfro eu sgiliau mewn sesiwn ddi-gyswllt. Fel rhan o'r diwrnod, cynhaliwyd tombola, rafflau ac ocsiwn hefyd, a oedd yn cynnwys taith awyren gyda chyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Ian Gough.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar 5 Awst, yn llwyddiant, gyda ffrindiau a theulu Richard, yn ogystal â'r gymuned leol yn dangos eu cefnogaeth, gan gynnwys cyn feddyg o'r fyddin Ian Thompson, sef y dyn cyntaf i gyrraedd Richard ar ôl ei ddamwain, yn ôl ym mis Chwefror 2022. 

Dywedodd Richard, 33, ei fod bob amser wedi bwriadu cynnal ei ddigwyddiad ei hun ers ei ddamwain er mwyn diolch i'r elusennau dan sylw.

Dywedodd: “Cymerodd dros bedwar mis i gynllunio a threfnu'r digwyddiad ac roeddwn wrth fy modd ei fod wedi mynd cystal. Dyma oedd y tro cyntaf i mi wneud unrhyw beth tebyg ac wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad, roedd yn teimlo fel petai popeth yn fy erbyn. Roedd pobl yn tynnu allan; cawsom storm a bu'n rhaid canslo'r castell neidio a'r gweithgareddau teulu oherwydd y tywydd.

“Fodd bynnag, diolch byth, cawsom ddiwrnod llwyddiannus iawn. Un o'r uchafbwyntiau personol i mi oedd pan oedd y Misfits yn ennill hanner ffordd drwy'r gêm.  Rwyf wedi cael cymaint o adborth cadarnhaol a phobl yn gofyn a all y gêm fod yn ddigwyddiad blynyddol, ac felly does dim dewis gen i ond gwneud rhywbeth fel hyn eto yn y dyfodol.”

Bydd yr arian o'r gêm yn cael ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a Ffrindiau Ysbyty Treforys.

Dywedodd Richard: “Heb Ambiwlans Awyr Cymru, yn syml iawn, ni fyddwn yma heddiw. Yn ogystal â bod yno adeg y ddamwain, roedd yr Elusen hefyd yno i mi a'm teulu wedyn hefyd. Er fy mod wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd codi arian i'r Elusen, roeddwn am godi arian drwy gynnal fy nigwyddiad fy hun, i ddiolch am yr holl gymorth a chefnogaeth a gawsom ers fy namwain.

“Doeddwn i byth yn disgwyl codi cymaint o arian o un digwyddiad ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth a'r rhoddion caredig gan bawb a helpodd i wneud y diwrnod yn llwyddiannus.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu'n llwyr ar roddion gan y cyhoedd i godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Richard ei fod am ddiolch i bawb a roddodd wobrau raffl, noddwyr y gêm a Fan Byrgyrs Daps Baps a Chlwb Rygbi Penfro am eu lletygarwch.

Ychwanegodd: “Hoffwn ddiolch i'r holl chwaraewyr a gymerodd ran am eu hymdrechion eithriadol. Ond yn fwy na dim, hoffwn ddiolch i'm teulu a'm ffrindiau am eu cymorth ac am helpu i wneud y diwrnod yn bosibl.”