Mae'n bleser gan Ambiwlans Awyr Cymru gyhoeddi bod y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a gynrychiolodd Gymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, James Hook, wedi dod yn llysgennad i'r elusen sy'n achub bywydau.

Chwaraeodd James, a wnaeth ymddeol fel chwaraewr rygbi undeb y llynedd, i Lewod Prydain ac Iwerddon chwe gwaith yn ystod y daith i Dde Affrica yn 2009 ac enillodd 81 o gapiau i Gymru. 

Yn ystod ei yrfa yn y clybiau rygbi, cynrychiolodd James Gastell-nedd, y Gweilch, Perpignan a Chaerloyw. Mae'n un o'r hyfforddwyr tîm rygbi'r Gweilch ar hyn o bryd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed eleni, ac mae James wedi ymwneud â'r gwasanaeth sawl gwaith dros y ddau ddegawd diwethaf, gan gefnogi ei waith codi arian ar hyd y ffordd.

Dywedodd James, 35 oed, sy'n briod â Kimberley: “Mae'n bleser gennyf ddod yn un o lysgenhadon Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n achos sy'n bwysig iawn i mi am iddo ddarparu gwasanaeth i'm mab hynaf ychydig dros ddeng mlynedd yn ôl pan aeth yn sâl iawn. Rwy'n credu ei bod yn Elusen wych ac nid ydych yn sylweddoli pa mor bwysig ydyw tan bod ei hangen arnoch. Roeddwn hefyd yno pan ymatebodd yr Elusen i'w galwad gyntaf yng Nghlwb Rygbi Glyn-nedd 20 mlynedd yn ôl.

“Mae'n anhygoel gweld ei datblygiad dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae'n anrhydedd enfawr i fod yn rhan o'i gwaith sy'n achub bywydau.” 

Dewisodd James Ambiwlans Awyr Cymru fel un o'r elusennau a fyddai'n elwa o'i flwyddyn gymeradwyol yn 2020. Yn anffodus, o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, ni fu'n bosibl cynnal y digwyddiadau cymeradwyol.

Mae'r tad i dri bachgen, Harrison, Ollie a George, hefyd yn datblygu ei yrfa fel pyndit ar y teledu a'r radio, gan weithio ar raglenni teledu a radio y BBC, ITV a Channel 4. Yn ystod gemau'r Chwe Gwlad 2021, bu'n gweithio i BBC Radio 5 Live.

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n bleser gennym groesawu James i'r Elusen fel un o'n llysgenhadon, yn enwedig wrth i ni ddathlu pen-blwydd mor arwyddocaol. Mae gan James brofiad uniongyrchol o'r gwaith hanfodol y mae ein helusen yn ei wneud 24/7 i bobl Cymru. 

“Mae ein llysgenhadon, sy'n rhoi o'u hamser i'n cefnogi, yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o'n helpu i gyrraedd pobl newydd, ysbrydoli cyfleoedd a gweithgareddau codi arian, a diolch i'n cefnogwyr a'n cyflogeion am y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud. Mae pob un i'r rhain yn hanfodol i'r Elusen wrth i ni ymdrechu i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod ein hofrenyddion yn parhau i weithredu.

“Gobeithio, drwy fod yn un o lysgenhadon Ambiwlans Awyr Cymru, y bydd James yn cael ymdeimlad enfawr o foddhad a balchder drwy wybod y bydd yn cyfrannu at ein gwasanaeth sy'n achub bywydau.” 

Ers iddo ymddeol, mae James, sy'n byw yn Abertawe ond a gafodd ei fagu ym Mhort Talbot, wedi cyd-ysgrifennu llyfr i blant o'r enw ‘Chasing a Rugby Dream’. Mae hefyd wedi sefydlu busnes o'r enw ‘Fab Four Coffee Company’ gyda'i gyd gyn-chwaraewyr rhyngwladol, Lee Byrne, Mike Phillips a Shane Williams.