Buan y newidiodd ymweliad i siop elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn brofiad annisgwyl i un twrist wrth iddi ddod ar draws ychwanegiad newydd i'w chasgliad o debotau gwerthfawr.

Roedd Linda Garwood wedi bod yn ymweld â thref hyfryd y Mwmbwls, gyda'i phartner Ron Smith, pan benderfynodd aros yn siop yr elusen ar Heol Newton, ble roedd darganfyddiad cyffrous yn disgwyl amdani.

Aeth Linda, 75, yn syth at silff lle roedd tebot gyda darlun o olygfa hyfryd o bicnic tedi bêr arno. Ar ôl edrych arno ymhellach, sylwodd Linda ei fod wedi ei wneud gan Paul Cardew, un o'i hoff artistiaid crochenwaith seramig, sy'n adnabyddus am ei greadigaethau cymhleth, llawn dychymyg o gymeriadau hudolus neu ddyluniadau clasurol.

Mae'r artist crochenwaith seramig sydd wedi ymddeol, a weithiodd yng Nghrochendy Poole rhwng 1974 a 1986, wedi bod yn gasglwr tebotau brwd gan Paul Cardew, sy'n dod o Ddyfnaint, ers sawl blwyddyn. Mae ganddi dros 100 o debotau yn ei chasgliad, gyda phob un yn gampwaith o gelf a chrefftwaith mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau. Mae ei hangerdd tuag at eu casglu yn estyn ymhellach nag estheteg yn unig. Mae'n dyst i'w hedmygedd dwfn o weithiau'r artist a'r manylion cymhleth sy'n addurno pob darn.

Dywedodd Linda ei bod wrth ei bodd gyda'i darganfyddiad diweddaraf yn siop Ambiwlans Awyr Cymru yn y Mwmbwls a'i bod wedi'i chyffroi o gael ychwanegu'r darn unigryw at ei chasgliad, sydd eisoes yn destun edmygedd.

Dywedodd: "Roeddwn mor gyffrous pan welais y tebot, roeddwn yn neidio o lawenydd. Weithiau pan fyddwch yn gweld tebot ac yn ei godi, bydd hollt ynddo, ond roedd yr un yma mewn cyflwr perffaith. Talais £40 amdano ac roedd hynny'n fargen yn fy marn i ac roeddwn mor falch o'i ddarganfod. Fel casglwr, y llawenydd a geir o ddarganfod eitem sy'n rhoi'r pleser, nid faint rydych yn ei dalu amdano."

Dywedodd Ron fod y crochenwaith wedi ei greu yn agos at ble roedd yn byw yn Plymouth, Dyfnaint.

Dywedodd: "Cafodd y crochenwaith ei greu ychydig i fyny'r ffordd o ble yr arferwn fyw, a byddwn yn arfer mynd i'w gwylio'n cael eu creu. Yn anffodus, caeodd y crochendy i lawr ychydig flynyddoedd yn ôl a bellach mae'n anodd iawn dod o hyd i'r tebotau. Weithiau gallwch ddod o hyd iddynt mewn siopau elusen os y byddwch yn lwcus, ond mae hynny'n annhebygol iawn.

"Roedd ein hymweliad i Gymru yn un llwyddiannus iawn a daethom o hyd i debot nad oedd gan Linda yn ei chasgliad yn barod. Daethom â'r tebot nôl i ble y cafodd ei greu, yn ôl i Ddyfnaint.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae Linda a Ron yn cyfrannu i'w ambiwlans awyr lleol yn Nyfnaint a Chernyw yn rheolaidd ac yn falch y bydd eu cyfraniad yn helpu i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Linda: "Dod o hyd i'r tebot oedd gwir uchafbwynt fy ngwyliau. Nid yn unig y mae'n ychwanegu at fy nghasgliad, ond mae'r ffaith fod yr arian yn mynd at achos gwerth chweil yn ei wneud yn fwy arbennig."

Dywedodd Michael Edwards, rheolwr siop Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn hynod falch bod Linda wedi mwynhau ei phrofiad yn ein siop yn y Mwmbwls a'i bod wedi gallu dod o hyd i debot prin i ychwanegu at ei chasgliad presennol. Mae bob amser yn hyfryd cael clywed straeon codi calon fel un Linda.

"Fel elusen, rydym bob amser yn gwerthfawrogi rhoddion gan y cyhoedd, ac mae'r stori hon yn dangos sut y gall eitem ail-law un unigolyn fod yn drysor i unigolyn arall. Mae ein cwsmeriaid yn chwarae rhan bwysig yn helpu i godi arian hanfodol ar gyfer ein helusen sy'n achub bywyd, a hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu cefnogaeth barhaus.