Cyhoeddwyd: 18 Ebrill 2024

Bydd perchennog busnes o dde Cymru yn mynd i Affrica ar "antur arwrol" yr haf hwn, yn codi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ar hyd y ffordd.

Bydd Ceri Dutch-John sy'n rhedeg Victoria Park Pies yng Nghaerdydd yn teithio ar hyd tir De Affrica gyda'i merch a'i chwaer-yng-nghyfraith ar y Put Foot Rally.

Byddant yn llywio eu cerbydau o amgylch diffeithdiroedd, hafnau, mynyddoedd, fforestydd a pharciau cenedlaethol, gan gwmpasu pedair gwlad a thua 6,000 km gan gyrraedd mannau cyfarfod ar hyd y ffordd. Nid digwyddiad i'r gwangalon yw hwn. Ni fydd cymorth meddygol ar gael na chymorth mecanyddol wrth gefn na chymorth i gynllunio.

Mae Ceri wedi hen arfer â theithiau gyrru, â'r teulu yn aml yn gyrru wrth fynd ar wyliau yn y DU ac Ewrop. Dywedodd: "Gwnaethom benderfynu cymryd rhan yn y Put Foot Rally ym mis Gorffennaf am ein bod yn meddwl y byddai'n ddigwyddiad gwych.

"Roeddem am fod yn rhan o'r sefydlad sy'n codi arian i ddechrau i roi esgidiau ar draed plant yn Ne Affrica, mewn amrywiol ysgolion.

"Rhaid i bawb sy'n cymryd rhan godi swm penodol o arian ar eu cyfer ac yna gallwn roi unrhyw arian y byddwn yn codi ar ben hynny i elusen o'n dewis.

"Fel busnes rydym bob amser wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ac roeddem am wneud unwaith eto gyda'r digwyddiad hwn."

Ambiwlans Awyr Cymru yw'r unig elusen ambiwlans awyr sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy'n ymrwymedig i'r bobl yng Nghymru a chaiff ei darparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Caiff ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Busnes teuluol yw Victoria Park Pies sydd wedi bod yn masnachu ers 1909 ac wedi codi arian ar hyd y blynyddoedd i'r elusen ambiwlans awyr, drwy roi'r ardoll o 5c a godir am fagiau.

Dywedodd Ceri: "Rydym bob amser wedi cefnogi'r ambiwlans awyr drwy ein canolfannau manwerthu, ac roeddem yn credu y gallai'r elusen elwa o gael rhagor o arian, i gefnogi'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu."

Dywedodd Ceri: "Byddem wrth ein boddau yn codi cymaint o arian ag y gallwn ac rydym wedi gosod Tudalen Go Fund Me, felly os hoffai unrhyw un ein cefnogi, byddem yn ddiolchgar am eich rhoddion. "Os hoffai unrhyw un ddilyn ein taith, gallant wneud hynny drwy ein tudalen Welsh Girlies on Tour ar Facebook - byddwn yn diweddaru'r dudalen honno yn rheolaidd drwy gydol y daith."

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Hannah Bartlett, Rheolwr Ymgysylltu â Chefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru: "Dymuniadau gorau i dîm Welsh Girlies ar eu taith yn Affrica! Mae'n anhygoel eu bod yn ymgymryd â'r her enfawr hon sy'n helpu plant yn Ne Affrica drwy ddarparu esgidiau i'r rhai sy'n mynd i'r ysgol.

"Rydym yn teimlo'n falch eu bod wedi dewis codi arian hanfodol ar ein cyfer ni wrth iddynt deithio drwy bedair gwlad ar eu taith 6,000 km

"Mae'r criw yn teithio ar hyd a lled Cymru bob dydd yn helpu pobl mewn sefyllfaoedd sy'n bygwth bywyd neu fraich neu goes a heb haelioni'r bobl sy'n codi arian, ni fyddem yn gallu achub bywydau ledled Cymru.

Os hoffech roi arian ar gyfer her y grŵp, ewch i https://gofund.me/5fe6c057.