Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2023

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wrth ei bodd bod Trafnidiaeth Cymru wedi codi dros £14,000 eleni er mwyn helpu i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a'i cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled y wlad.

Pleidleisiodd cyflogeion Trafnidiaeth Cymru dros Ambiwlans Awyr Cymru fel eu Helusen y Flwyddyn i gael budd o'r arian a godwyd drwy weithgareddau codi arian.

Yn ogystal â chefnogi ei chyflogeion i gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian ac apeliadau, mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn darparu cymorth drwy iawndal ad-dalu oedi, y gall cwsmeriaid ddewis ei roi i Ambiwlans Awyr Cymru, a refeniw eitemau coll o eitemau heb eu hawlio.

Yn ddiweddar, ymwelodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru, a grŵp bach o weithwyr Trafnidiaeth Cymru, â safle Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaerdydd er mwyn dysgu mwy am yr hyn y mae'r Elusen yn ei wneud. 

Dywedodd Marie: "Fel sefydliad mawr sy'n gweithredu ledled Cymru, mae'n bwysig iawn ein bod yn cefnogi elusennau ar draws ein cymunedau lleol. Mae ein cyflogeion yn awyddus iawn i bleidleisio dros yr elusennau hyn ac eleni, gwnaethant benderfynu defnyddio eu llais i bleidleisio dros Ambiwlans Awyr Cymru.

"Rydym wedi bod yn cydweithio ag Ambiwlans Awyr Cymru i arddangos ei brand ar un o'n trenau Marc 4 sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn hyrwyddo'r Elusen a'r holl bethau gwych y mae'n eu gwneud dros bobl Cymru, ac rydym yn gyffrous iawn am hynny."

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru. Mae ei hangerdd dros ein gwasanaeth a'r Elusen yn eithriadol ac rydym yn falch iawn ei bod wedi dewis ein cefnogi.

 "Mae'r staff a'r cymudwyr yn gwneud cyfraniad sy'n achub bywydau a fydd o fudd i bobl ledled y wlad pan fydd angen cymorth arnynt, ac ni allwn ddiolch ddigon iddynt."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol, gan wella'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Yn aml, caiff y Gwasanaeth ei ddisgrifio fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, ond gall hefyd ddarparu gofal o'r un safon ar y ffordd drwy ei fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

Darperir y gwasanaeth 24/7 hwn drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.