Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ei Dîm Gwasanaethau Busnes wedi cyrraedd rhestr fer yn rownd derfynol seremoni wobrwyo fawreddog canolfannau cyswllt Cymru.

Bydd y tîm, a sefydlwyd ar 1 Chwefror 2022, yn cystadlu yn erbyn rhai o enwau mwyaf y diwydiant yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt a Gwasanaeth Cwsmeriaid CNect.

Mae Gwobrau Blynyddol Canolfannau Cyswllt Cymru yn dathlu rhagoriaeth ac arfer arloesol gan unigolion a chwmnïau ledled Cymru.

Mae’r Gwobrau mawreddog hyn yn cwmpasu Cymru gyfan, gyda rhai o’r bobl a’r timau gorau o fewn y diwydiant canolfannau cyswllt a gwasanaethau a rennir. Maent yn cydnabod gorchestion a llwyddiannau ym mhob rhan o'r sector, yn amrywio o gynghorwyr rheng flaen, staff cymorth, adnoddau dynol, TG, mentrau a gwasanaethau.

Mae hefyd yn cynnig cyfle mawr i godi proffil cwmni neu Elusen ac yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ei aelodau staff.

Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Lloyds Banking Group, Y Bathdy Brenhinol, Virgin Atlantic Airways, BT, Legal and General, y DVLA a Grŵp Principality i enwi dim ond rhai.

Mae Tîm Gwasanaethau Busnes yr Elusen wedi cyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol y categori “Tîm Cwsmeriaid y Flwyddyn” a byddant yn darganfod a ydynt wedi ennill mewn seremoni wobrwyo ffurfiol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 29 Medi 2023.

Dyma'r tro cyntaf i Ambiwlans Awyr Cymru gymryd rhan yn y gwobrau.

Y Tîm Gwasanaethau Busnes yw'r pwynt cyswllt cyntaf i gefnogwyr gyfathrebu â'r Pencadlys yn Dafen a Hyb Caernarfon dros y ffôn, drwy e-bost ac wyneb yn wyneb. Mae'r tîm yn ymdrin ag amrywiaeth eang o ymholiadau, gan gynnwys trafodaethau am aelodaeth â'r Loteri Achub Bywyd, ceisiadau am gymorth codi arian ar gyfer digwyddiad, ymholiadau ynglŷn â gwneud rhoddion, neu ymholiadau gan gyn-gleifion a'u teuluoedd sy'n chwilio am gymorth yn dilyn eu triniaeth. 

Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am asesu a threfnu casgliadau o eitemau ail-law, a roddwyd yn hael i'w gwerthu yn siopau Ambiwlans Awyr Cymru. Yn ogystal â hyn, mae'r tîm yn gweithredu fel hyb gweinyddol ar gyfer adrannau eraill o fewn yr Elusen, gan gynnwys ymdrin ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol cyffredinol. 

Cyflwynodd Gareth Robbins, Rheolwr Gwasanaethau Busnes Ambiwlans Awyr Cymru, ei dîm sy’n cynnwys Richard Williams, Ceren Jones, Katrina Ellis, Rebecca Thomas a Michael Pugh, ar gyfer y wobr.

Darparodd becyn tystiolaeth yn cynnwys trosolwg byr o'r hyn y mae'r tîm yn ei wneud, ystadegau, adborth cwsmeriaid a thystebau gan benaethiaid adrannau eraill o fewn yr Elusen. Yna cafodd dau aelod o'r tîm eu cyfweld dros Zoom gan y panel dyfarnu.

Ym mis Gorffennaf a mis Awst 2022, roedd yr Elusen yn cael tua 550 o negeseuon e-bost a galwadau ffôn y mis, ond eleni, mae hyn wedi cynyddu i 900 y mis. Mae effeithlonrwydd y tîm a'r strwythur sydd wedi'i roi ar waith wedi sicrhau nad yw hyn wedi cael unrhyw effaith ar adrannau eraill o fewn yr Elusen. 

Arferai'r Tîm Gwasanaethau Busnes ymdrin â 50% o'r ymholiadau, ond 12 mis yn ddiweddarach, mae'r tîm bellach yn datrys dros 80% o ymholiadau ar y cyfle cyntaf. Mae'r cynnydd sylweddol hwn yn galluogi adrannau eraill i ganolbwyntio ar eu tasgau, yn cynyddu effeithlonrwydd ac yn sicrhau bod pob cefnogwr yn cael lefel gyson o wasanaeth.  

Dywedodd: “Rwy’n hynod o falch o’r hyn y mae’r tîm wedi’i gyflawni mewn cyfnod cymharol fyr. Bydd ein tîm bach o bump yn mynd benben â mawrion profiadol y diwydiant gwasanaethau cwsmeriaid yng Nghymru, ac mae hynny’n dyst i waith caled ac ymroddiad pob aelod o’r tîm.

“Mae hyd yn oed cael ein henwi yn y rownd derfynol yn anrhydedd enfawr, a ph’un a fyddwn yn llwyddiannus yn y pen draw ai peidio, rwy’n meddwl bod y dilysiad allanol hwn o’r gwaith rydym yn ei wneud yn glod enfawr i’r tîm a’r Elusen yn gyffredinol.”

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru, fod y Tîm Gwasanaethau Busnes wedi’i sefydlu gyda’r bwriad o ddarparu dull mwy cyson a chydgysylltiedig o gyfathrebu â chwsmeriaid yr Elusen a rhoi cymorth gweithredol i’w swyddogaethau mewnol.

Dywedodd: "Roedd cyflwyno'r Tîm Gwasanaethau Busnes yn un o amcanion pwysig ein strategaeth 2021-2026. Cafodd ei sefydlu gyda'r nod o ddarparu dull mwy cyson a chydgysylltiedig o ryngweithio â chefnogwyr yr elusen a chymorth gweithredol i gefnogi ei swyddogaethau mewnol.

"Mewn llai na dwy flynedd, mae'r tîm wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i broffesiynoldeb ac effeithlonrwydd ein pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymgysylltu â chefnogwyr, sydd nid yn unig wedi gwella'r profiad i'r rhai sy'n cysylltu â ni ond hefyd wedi rhyddhau mwy o weithwyr ar draws y sefydliad i gynnig mwy o gymorth penodol i'n rhoddwyr a'n rhanddeiliaid gweithredol.

"Mae'r gydnabyddiaeth allanol hon yn dangos y cynnydd sylweddol y mae'r tîm wedi ei wneud a'r gwerth y mae'n ei gynnig i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau."