Cyhoeddwyd: 06 Mawrth 2024

Mae teulu o Ogledd Cymru wedi dangos faint y maent yn gwerthfawrogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy godi bron i £2,000 at yr achos. 

Cafodd bywyd Sheila Breeds, cyn-glaf i Ambiwlans Awyr Cymru, ei achub ym mis Mai 2021 ar ôl iddi gael gwaedlif yn ei hymennydd ar draeth, a wnaeth iddi syrthio ar ei hwyneb i mewn i'r môr a bu bron iddi foddi.

Roedd Sheila, o Griccieth, eisiau rhoi cynnig ar siwt wlyb newydd felly penderfynodd fynd i nofio'n agos at ei chartref pan aeth ei gŵr, Oliver Schick i chwarae golff.

Yn ffodus, cafodd yr hyn a ddigwyddodd i Sheila ei weld gan deulu o Wrecsam a oedd yn ymweld â'r ardal.

Roedd Kathy Clutton, Neil Dobie a'u meibion Myles a Harris yn aros i fynd i lawr am y traeth pan yn sydyn, tynnodd y bechgyn sylw eu tad at yr hyn a oedd wedi digwydd i Sheila. Llwyddodd Neil gyda chymorth gan eraill, i lusgo Sheila i fyny'r grisiau at y promenâd isaf.

Rhoddodd Neil CPR i Sheila wrth i Kathy sgrechian am help. Gwnaethon nhw ag eraill, gan gynnwys Rich Wilcock sef un o gymdogion agos Sheila, barhau i roi CPR iddi am 20 munud nes cyrhaeddodd Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Oliver: "Defnyddiwyd y diffibriliwr gan y meddygon ar Sheila tra roedd Jon, y peilot, yn rhedeg yn ôl ac ymlaen o'r hofrennydd fynd i nôl y cit - a oedd yn cynnwys y gwely cludo.  Glaniodd Jon yr hofrennydd ar chwecheiniog ger maes parcio Rhodfa'r Gorllewin er mwyn bod mor agos â phosibl.

"Er i'w chalon stopio am 40 munud, llwyddwyd i'w hadfer a'i chludo i Ysbyty Gwynedd."

Yn dilyn y gwaedlif ar ymennydd Sheila, bu mewn cyflwr critigol am ddeg diwrnod, ac roedd ei phrognosis yn wael.

Trwy ryw wyrth, daeth yn ôl at ei hun ond dechreuodd y gwaedlif waedu unwaith eto, felly cafodd ei chludo ar frys i Ganolfan Walton yn Lerpwl lle cafodd driniaeth coil frys. 

Roedd adferiad Sheila yn araf, a bu'n rhaid iddi dderbyn llawdriniaeth arall ar ôl hyn. Flwyddyn yn ddiweddarach ers iddi bron colli ei bywyd, cafodd Sheila ei rhyddhau o'r ysbyty.

Er mwyn dangos ei gwerthfawrogiad tuag at yr elusen, am y 'gwasanaeth a'r sylw rhagorol' a gafodd, penderfynodd y teulu godi arian. Cafodd apêl Nadolig ei sefydlu, a gwnaeth yr holl ffrindiau a'r bobl a fu o gymorth iddynt yn ystod y cyfnodau gwaethaf, gyfrannu at yr achos.

Ychwanegodd Oliver: "Gwnaethom godi bron i £2,000, ond mae bywyd yn werth llawer mwy na hynny! Byddwn yn mynd ati i geisio gwneud 2024 yn flwyddyn a fydd yn fythgofiadwy, a byddwn yn parhau i gefnogi'r Ambiwlans Awyr Cymru ac yn annog pawb i ddysgu cymorth cyntaf sylfaenol."

Hoffai'r teulu ddiolch i bawb a helpodd i achub bywyd Sheila, ac i bawb a chwaraeodd eu rhan yn ei hadferiad parhaus.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. Gall hyn olygu arbed llawer o oriau i'r claf o'i gymharu â'r gofal a roddir fel arfer, ac mae'n amlwg yn gwella'r siawns o oroesi a chael adferiad cynnar yn sylweddol.

Caiff ei roi drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu ymgynghorwyr ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG, sy'n gweithio yng ngherbydau'r Elusen.