09/06/2020

Mae teulu wedi codi £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'r gwasanaeth achub bywyd eu merch dwy flwydd oed yn ddiweddar.

Defnyddiwyd hofrennydd yr Elusen, sydd wedi'i leoli yn Nafen, i gyrraedd Evie Prosser yng Ngorllewin Cymru wedi iddi fod mewn damwain cerbyd ym mis Mawrth 2020. Y rhai a oedd ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw oedd y meddyg ymgynghorol Gareth Roberts, yr ymarferydd gofal critigol Rhyan Curtain a'r peilot Nobby Norriss.

Ar ôl cael triniaeth i achub ei bywyd yn y fan a'r lle, cludwyd y ferch fach i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle roedd mewn cyflwr difrifol. 

Ni wyddai'r teulu beth fyddai'r canlyniad, ond ar ôl treulio saith wythnos yn Ysbyty Arch Noa – yn cynnwys pythefnos yn yr uned gofal dwys – cawsant ddod ag Evie gartref i Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd ei mam ddiolchgar, Jessica, fod y broses wella wedi bod yn un anodd. Esboniodd: "Roedd angen cymorth Ambiwlans Awyr Cymru arnom i achub bywyd ein merch fach, a dyna'n sicr wnaethon nhw. Heb yr hofrennydd a'r meddygon gwych a roddodd driniaeth i Evie, ni fyddai hi gyda ni heddiw. Mae Evie yn anhygoel, mae hi'n ferch garedig iawn ac yn llawn cariad.

"Mae taith hir o'i blaen o hyd. Erbyn hyn, mae hi'n cael ffisio ddwywaith yr wythnos er mwyn ei chael hi'n ôl ar ben ffordd, ac mae hi'n gwneud yn wych. Mae hi'n ferch fach benderfynol iawn a dyw hi ddim yn gadael i unrhyw beth ei rhwystro. Mae hi gartref a dyna roeddem yn ei obeithio – ac mae'r diolch am hynny i barafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chriw Ambiwlans Awyr Cymru.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ein teulu a'n ffrindiau. Mae 14 wythnos wedi mynd heibio ers y ddamwain, ac mae pob wythnos yn wythnos o gynnydd."

Mae'r teulu o bedwar, sy'n cynnwys tad Evie, Dug, a'i chwaer fach, Elsie, wedi cwblhau taith gerdded/seiclo 15 milltir er budd yr Elusen.

Maent wedi mynd y tu hwnt i'w targed o £500 yn barod, gan godi dros £2,481. Sicrhaodd Jessica fod y gwaith o godi arian yn llawn hwyl i'r merched, a gwnaethant gwblhau taith seiclo 10 milltir gyda'i gilydd a oedd yn cynnwys llawer o ganu a chwerthin.

Wrth fyfyrio ar yr hyn y mae'r Elusen yn ei olygu i'r teulu, dywedodd Jessica: "Rwy'n darllen straeon tebyg  ar-lein, a dydych chi ddim yn meddwl y gall rhywbeth fel hyn ddigwydd i chi, nes ei fod yn digwydd ac mae eich byd cyfan yn cael ei droi ben i waered.

"Rydych chi'n dibynnu ar y meddygon hyn i achub bywydau ac maen nhw'n dibynnu ar ein rhoddion ni. Rydym ni, fel teulu, mor ddiolchgar i'r meddygon am yr hyn y maen nhw wedi'i wneud i ni. Fe wnaethon nhw bopeth posibl i gadw Evie gyda ni heddiw."

Mae'r teulu yn bwriadu gwneud mwy o waith codi arian yn y dyfodol.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De Cymru: "Rydym mor falch bod ein gwasanaeth wedi gallu helpu Evie. Mae ei hadferiad parhaus, ac awydd y teulu i godi arian i ni mor fuan ar ôl y ddamwain, yn dangos gwydnwch anhygoel. Mae'n ysbrydoledig ac rydym yn ddiolchgar iddyn nhw am fynd ati i godi arian.

"Llwyddon ni i achub bywyd Evie oherwydd sgiliau ein criw a diolch i bobl Cymru sy'n rhoi mor hael i'n Helusen." 

Os hoffech gyfrannu at ddigwyddiad codi arian Evie, ewch i'w thudalen Just Giving page here