30/06/2020

Yn ystod y cyfyngiadau symud, gwisgodd mwy na 500 o bobl eu hesgidiau cerdded i gymryd rhan yn her rithwir Cerdded Cymru - gan godi swm anhygoel o £32,000.

Er mai dim ond awr y dydd o ymarfer corff roedd y cyfranogwyr yn cael ei wneud o ganlyniad i'r pandemig, gwnaeth 545 ohonynt, o bob oedran, ddangos eu cefnogaeth i'r elusen sy'n achub bywydau.

Cynhaliwyd yr her dros gyfnod o 32 o ddyddiau rhwng mis Ebrill a mis Mai. Roedd modd ei gwblhau yn y tŷ, yn yr ardd, ar beiriant rhedeg, wrth fynd â'r ci am dro neu drwy fynd i fyny ac i lawr y grisiau, gan roi cyfle i gyfranogwyr gerdded pellter tirweddau hyfryd Cymru yn rhithwir.

Roedd y 'cerddwyr' yn gosod targed i'w hunain yn seiliedig ar y nifer o gamau y gallent eu cyflawni. Roedd y dewisiadau yn amrywio o daith gerdded o 9 milltir ar hyd Llwybr Llanberis yn yr Wyddfa, i'r daith gerdded o 52 o filltiroedd rhwng y Gelli Gandryll a Chastell Powys.

Roedd 90 o gant o'r sawl a gymerodd ran yn codi arian i'r Elusen am y tro cyntaf.

Roedd y sawl a gododd yr arian rhwng 4 a 94. Aeth llawer o'r cyfranogwyr ymhellach na'u pellter targed, gyda rhai yn dyblu neu'n treblu eu pellter yn ystod y mis.

Cofrestrodd merch ysgol o Lanelli, Olivia Davies, sy'n saith oed, ar gyfer her Cerdded Cymru a dewisodd wneud y daith gerdded o 52 o filltiroedd – mewn gwisg uncorn llawn aer.

Boed law neu hindda, treuliodd Olivia a'i mam falch Gemma bob diwrnod yn cerdded er mwyn cwblhau'r milltiroedd. Mae Olivia, sy'n ddisgybl yn Ysgol Stebonheath, yn falch iawn o'r hyn y mae wedi ei gyflawni, ac wrth ei bodd ei bod hi wedi codi £700.

Fel llawer o elusennau ledled y DU, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi gweld gostyngiad sylweddol o ran cyllid, am fod digwyddiadau codi arian wedi cael eu canslo a siopau elusen wedi gorfod cau'r drws. Lansiodd yr Elusen ei hapêl frys yn ystod y pandemig.

Dywedodd Steffan Anderson-Thomas, Arweinydd Digwyddiadau'r Elusen: "Mae her rithwir Cerdded Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae'r ffaith bod £32,000 wedi cael ei godi mewn mis yn unig yn anhygoel, ond mae'n fwy arbennig byth i glywed bod 90 y cant o'r bobl a gymerodd ran yn codi arian i ni am y tro cyntaf.

"Mae'r pandemig yn parhau i achosi problemau mawr o ran codi arian, ond mae'r ffordd y mae pobl Cymru wedi ymateb i'n galwadau am gymorth wedi bod yn anhygoel. Diolch i bawb a gymerodd ran yn her Cerdded Cymru i gefnogi'ch elusen sy'n achub bywydau.”