Mae taith tractors wedi'u goleuo lwyddiannus wedi codi mwy na £4,000 ar gyfer dwy elusen bwysig.

Cynhaliodd Clwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen y digwyddiad ar ôl iddynt orfod canslo'r daith tractors flaenorol yn sgil Covid-19.

Daeth cannoedd o bobl i fwynhau'r orymdaith mewn gwahanol fannau ar hyd y daith. Daeth Siôn Corn a'i gorachod i godi gwên ar wynebau'r plant a rhoi anrhegion i'r rhai a oedd wedi ymgasglu ym Maes Parcio Morrisons. 

Hoffai Clwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen ddiolch i Morgans Family Butchers a Youngs of Brecon am roi arian i brynu siocledi i'r plant, a hefyd i NFU Cymru am fenthyca'r model buwch i'w roi ar sled Siôn Corn!

Dywedodd Ysgrifennydd y Clwb, Sian Healey: “Diolch i McCartneys LLP am ganiatáu i ni ddechrau'r digwyddiad ym Marchnad Aberhonddu. Mr Gethin Havard, Llywydd Sirol Clwb Ffermwyr Ifanc Brycheiniog a gafodd y dasg o ddewis y Tractor wedi'i Addurno Orau, gan ddyfarnu'r wobr gyntaf i Mr Jamie Bufton, Battle Fawr. Diolch i Gethin am ei help ac i Wynnstay am roi'r gwobrau."

Hoffai'r clwb ddiolch yn fawr i Jo Evans, Hyrwyddwr Grantiau Cymunedol Morrisons, am ganiatáu i'r tractors ddefnyddio'r maes parcio, am roi bwyd i'r gyrwyr, ac am ddosbarthu mins peis a losin ar ddiwedd y daith.

Bydd y £4,200 a godwyd yn ystod y digwyddiad yn cael ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a Cymorth Canser Macmillan.

Dywedodd y Cynghorydd Iain Mcintosh “Roedd Taith Tactors wedi'u Goleuo Llywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen yn ddigwyddiad gwych, a dyma'r cyntaf o nifer gobeithio! Daeth trigolion ynghyd y tu allan i'w cartrefi ac mewn pentrefi i weld tua 50 o gerbydau wedi'u goleuo a'u haddurno'n Nadoligaidd yn teithio o Farchnad Da Byw Aberhonddu, ar hyd y daith, i faes parcio Morrisons yn Aberhonddu.

“Hoffwn ddiolch i Sian Healey, Raiff Devlin, Jan Healey, Gaynor ac Alun Morgan, a phawb arall o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen a helpodd i drefnu'r digwyddiad i godi miloedd o bunnau ar gyfer elusennau Ambiwlans Awyr Cymru a Cymorth Canser Macmillan. Hoffwn ddiolch hefyd i Morrisons yn Aberhonddu am ganiatáu i'r digwyddiad orffen ym maes parcio'r siop, lle daeth pobl ynghyd i weld y tractors wedi'u haddurno, a mwynhau mins pei neu ddau!”

Ychwanegodd Sian: “Daeth y noson i ben drwy gynnal raffl, a diolch i'r holl aelodau a roddodd wobrau, gan gynnwys Gwesty'r Metropole, Caffi'r Strand, Llanfair-ym-Muallt, tafarn y Fountain Inn, Llanfair-ym-Muallt. Diolch hefyd i Westy'r Greyhound am werthu'r tocynnau ar ran y clwb.”

Diolchodd Cadeirydd y Bwrdd, Raiff Devlin, i bawb a helpodd mewn unrhyw ffordd i wneud y digwyddiad yn un llwyddiannus iawn.

Dywedodd Helen Pruett, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr i Glwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen am godi swm anhygoel o £4,200 i elusen. Roedd y daith tractors wedi'u goleuo yn llwyddiant ysgubol, a dylai pawb a fu'n rhan o'r digwyddiad fod yn falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd.  Roedd y tractors yn edrych yn wych! Bydd y rhodd hon yn helpu ein meddygon i fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf – 24/7. Diolch o waelod calon.”

Hoffai'r clwb ddiolch i'r noddwyr canlynol am eu cymorth hael ar gyfer ein digwyddiad; A D G Morgan Agri Contracting, Alpaca My Boots, Agri Torque Ltd, Bbi Group, Beacons Group, Brecon & Radnor Express, Gwasanaethau Yswiriant Caleb Roberts, Caroline’s Real Bread, CBS Ltd, C & J Davies Cwmachau Cabins, Clee Tompkinson & Francis, Clwb Golff Cradoc, D T Holloway, Epynt Holidays Ltd, Farmers’ Welsh Lavender Ltd, Hills, Ivor Duggan a'i Feibion, J & C Griffiths, JHS Training, Llandovery Tyres, Lyndon R Jones Heating Services Ltd, Morgan’s Family Butchers, Trefnwyr Angladdau Parry & Pugh, Phil Davies Haulage Ltd, Pixelhaze, Spa Motors, Sunderlands, T Alun Jones, Ted Hopkins, Caffi'r Strand, Wigwam Aberhonddu, cwmni bysiau Williams, WW Bowen, Wynnstay, Youngs of Brecon.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.