Mae elusen achub bywydau wedi cael siec o dros £1,800 yn dilyn taith tractors lwyddiannus.

Trefnodd Brian a Wendy Jones, o Gaer, y daith tractors er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Cymerodd 70 o dractors ran yn y daith gan roi cyfle i bobl fwynhau'r goleuadau llachar a'r addurniadau Nadoligaidd ar bob tractor. Teithiodd y tractors o amgylch Hanmer a phentrefi cyfagos Wrecsam.

Daeth pobl o bob oedran allan yn y pentrefi i gyfarch y tractors yn ystod cyfnod y Nadolig.

Yn ddiweddar, cyflwynodd Brian a Wendy siec ar gyfer £1,857 i un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, Deb Sima yn Eglwys Hanmer.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Deb Sima, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Roedd yn bleser gennyf dderbyn siec ar gyfer £1,857 gan Wendy a Brian Jones a drefnodd daith dractors arbennig dros gyfnod y Nadolig. Mae'n anhygoel clywed bod 70 o dractors wedi cymryd rhan yn y daith er mwyn dod â hwyl yr ŵyl i'r rheini yn yr ardaloedd lleol, gan godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a'u hysbyty lleol.

“Diolch i bawb a gymerodd ran neu a roddodd arian – a diolch enfawr i Brian a Wendy am drefnu'r digwyddiad llwyddiannus. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich bod yn cefnogi ein helusen achub bywydau yn fawr. Bydd rhoddion fel hon yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.