Mae grŵp o ffrindiau sy'n ffermio wedi codi dros £2,000 drwy deithio ledled Gogledd Cymru mewn tractors clasurol i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Gosododd y grŵp, a oedd yn cynnwys Gwynfor Rowlands o Ynys Môn, a'i ffrindiau Glyn Williams, Dave Pritchard, Dafydd Humphreys a Simon Millichamp yr her fis diwethaf.

Nod y dynion oedd gyrru i Dywyn drwy Sarn a Llanbedr, yn ôl i Ddolgellau a chroesi i Ruthun drwy'r Bala. Roeddent yn bwriadu dychwelyd i Benysarn drwy Lanrwst a Betws-y-Coed, ond gan fod Conwy dan gyfyngiadau lleol, bu'n rhaid i'r ffrindiau ganslo eu cynlluniau i barhau â'r daith tractors o Ruthun i Lanrwst.

Gyrrodd y dynion drwy Gerrigydrudion ar gyfer cymal olaf y daith, gan ddilyn yr A5 yn ôl i Ynys Môn.

Aeth y grŵp ar y daith mewn tractors amrywiol – Gwynfor Rowlands (y V8 mawr), Dafydd Humphreys (New Holland), Glyn Williams (Cae), Simon Millichamp (British Leyland a'r tractor hynaf 1974) a David Pritchard (John Deere).

Roedd y dynion yn gobeithio codi £1,000 yn ystod y daith tractors clasurol dros gyfnod o saith diwrnod i elusen leol a oedd yn agos at galonnau pob un ohonynt.

Cynlluniwyd y digwyddiad codi arian yn ofalus, gan gynnwys y llwybr a'r llety.

Wrth siarad am y ffaith bod y grŵp wedi codi £2,034.35, gan chwalu'r targed o £1,000, meddai Sioned Jones, a helpodd i drefnu'r daith tractors: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi codi cymaint, gan mai tua £1,000 roeddem wedi gobeithio ei godi yn wreiddiol.

“Cawsant gymaint o hwyl, ac roedd yn hyfryd gweld y croeso cynnes a gawsant gan bobl leol ar hyd y daith. Ac ymunodd dau dractor arall â ni ar hyd y ffordd ar y dydd Sadwrn i Sarn Mellteyrn.”

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Gogledd Cymru: “Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad. Er gwaethaf y cyfyngiadau presennol, aeth y daith tractors yn ei blaen gan ddilyn llwybr ychydig yn wahanol i godi dros £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru. Fel elusennau eraill ledled y DU, rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn ein cronfeydd arian oherwydd y pandemig presennol. Bydd y cymorth parhaus gan bobl fel Gwynfor, Dafydd, Glyn, Simon, David a Sioned yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr. Diolch i bawb a gefnogodd ac a roddodd arian i achos mor bwysig.”