Mae aelodau Clwb Hen Gerbydau Sir Drefaldwyn wedi codi arian hanfodol ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn ystod taith tractors er cof am lywydd diweddar y clwb.

Cynhaliwyd Taith Tractors Goffa Gron Bumford yn gynharach eleni ac, ar gais teulu Mr Bumford, rhoddwyd y £440 a godwyd i'r elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau.

Teithiodd y 30 o gyfranogwyr a gymerodd ran yn y digwyddiad drwy gymunedau Cyfronydd, Llanfair Caereinion, Cefn Coch, Felin-newydd, Bwlch-y-Ffridd a Betws Cedewain ym Mhowys.

Nid dyma'r tro cyntaf i Glwb Hen Gerbydau Sir Drefaldwyn godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Dros y tair blynedd diwethaf, mae wedi cyfrannu £1,125 sy'n swm anhygoel!

Dywedodd Dougie Bancroft, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol yr Elusen: “Hoffem ddiolch o galon i deulu Mr Bumford, pawb a gymerodd ran yn y daith tractors, a'r holl gymunedau a roddodd arian yn garedig. Mae'r arian a godwyd gan Glwb Hen Gerbydau Sir Drefaldwyn er cof am Mr Bamford yn waddol addas gan y bydd yn ein galluogi i barhau i helpu pobl pan fyddant mewn angen. 

“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw ein gwasanaeth i gymunedau gwledig ac mae pob rhodd yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn barhau i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr ar gyfer trigolion Sir Drefaldwyn a Chymru.”

Ffurfiwyd Clwb Hen Gerbydau Sir Drefaldwyn yn 1994 i'r rhai sydd â diddordeb mewn hen gerbydau a chyfarpar o bob math. Y Clwb sy'n trefnu'r arddangosfeydd hen gerbydau mewn sawl sioe leol, gan gynnwys Cegidfa, Croesoswallt, Llanfyllin, Aberriw a Llanfair Caereinion. 

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, y Trallwng a Chaerdydd.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.