Codwyd dros £5,000 i dair elusen bwysig ar ôl i grŵp o bedwar ffrind seiclo o Sandringham i Aberystwyth.

Penderfynodd y tîm, a oedd yn cynnwys Sian Downes o Langeitho, Daniel Downes o Bumpsaint, Gareth Jones o Lanrhystud a Gerwyn Davies o Landeilo, seiclo’r 257 o filltiroedd o Norfolk i Aberystwyth er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ac Uned Monitro’r Galon yn Ysbyty Bronglais.

Wrth drafod y rheswm dros gwblhau’r her, dywedodd Sian, sy’n dechnegydd defaid yn Innovis: “Gan fod cymaint o ddigwyddiadau codi arian wedi cael eu gohirio yn sgil covid-19, nid yw elusennau wedi derbyn y cymorth y byddent yn ei gael mewn blwyddyn arferol. Roeddem yn teimlo ein bod am herio ein hunain, a chodi gymaint o arian â phosibl ar hyd y daith.

“Gan ein bod yn byw yng nghefn gwlad Cymru, rydym yn deall pwysigrwydd yr ambiwlans awyr i roi gofal brys a lleihau amser critigol trosglwyddo claf i’r ysbyty.”

Penderfynodd y pedwar penigamp ddewis yr her hon i godi arian ar ôl i Sian ddychwelyd i weithio’n Aberystwyth ar ôl treulio dwy flynedd yn gweithio yn Norfolk.

Cafodd y daith seiclo epig ei chwblhau mewn dau ddiwrnod pan oedd cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi’u codi. Gwnaethant seiclo 158 o filltiroedd o Sandringham i Eccleshall ar y diwrnod cyntaf, ac yna 99 o filltiroedd o Eccleshall i Aberystwyth ar yr ail ddiwrnod.

Cwblhaodd y seiclwyr yr her gyda chefnogaeth gan eu tîm cymorth – sef y ffermwr llaeth, Eurig Jenkins o Dalsarn a Glyn Evans, cynrychiolydd gwerthiannau Olew dros Gymru o Giliau Aeron.

Wrth fyfyrio ar y £5,152.84 a godwyd, a oedd yn golygu bod pob elusen yn derbyn £1,717.62, dywedodd Sian: “Rydym yn falch iawn o’r cyfanswm terfynol a godwyd a gaiff ei rannu rhwng y dair elusen deilwng.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch i’r pedwar seiclwr, yn ogystal â'u tîm cymorth, a chwaraeodd ran bwysig er mwyn codi cyfanswm gwych o arian i dair elusen hollbwysig. Gwnaethant seiclo 257 o filltiroedd mewn dau ddiwrnod, sy’n gyflawniad gwych. Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd arian i’r digwyddiad – mae pob un ohonoch yn sicrhau y bydd ein gwasanaeth 24/7 sy’n achub bywydau’n parhau i ddarparu ar gyfer pobl yng Nghymru.”