27/08/2020

Mae bachgen ysgol wyth oed wedi dathlu ei ben-blwydd drwy gerdded i gopa Moel Famau wyth gwaith er budd elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau.

Roedd Trystan Evans o Ruthun yn gobeithio codi £100 i Ambiwlans Awyr Cymru, ond aeth ymhellach na'r targed hwnnw drwy godi £510.

Gosododd her iddo’i hun o gerdded bryn uchaf Bryniau Clwyd pob dydd yn ystod yr wythnos cyn ei ben-blwydd, a chwblhaodd ei daith gerdded ar ddiwrnod ei ben-blwydd.

Ymunodd ei chwiorydd, Illiana a Steffi, â Trystan ar y teithiau cerdded, yn ogystal â'u ffrindiau Olivia a Lily Thompson. Gwnaeth ei rieni, Tim a Maria, a ffrindiau eraill, gan gynnwys Natalie Beach, hefyd gymryd rhan yn y digwyddiad codi arian.

Dywedodd ei fam, Maria, yn llawn balchder: "Mae'r plant wedi bod yn cerdded pob dydd. Mae wedi bod yn boeth ac yn drymaidd, ond roeddent yn benderfynol o gwblhau'r her.

"Cawsom y syniad ar ôl bod i gerdded gyda ffrindiau i Foel Famau, a gwnaethom ddweud yr hoffem gwblhau her. Yna gwnaethom ddewis Ambiwlans Awyr Cymru am ei fod yn wasanaeth sy'n achub bywydau ac am ei fod yn cael ei ariannu gennym ni, y bobl.

"Mae Trystan yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth y mae wedi'i chael – mae'r arian sydd wedi cael ei godi yn wych. Rydym yn teimlo ar goll nawr gan nad oes gennym ddim i'w wneud!"

Dathlodd y teulu ei ben-blwydd drwy bobi cacen a gwahodd ffrindiau i ddathlu'r achlysur ar gopa Moel Famau.

Gwnaeth Trystan a'r merched fwynhau'r her ac ni wnaethant gwyno er gwaethaf cerdded mewn pob math o dywydd, gan gynnwys gwynt a glaw a gwres 30 gradd selsiws. 

Gallwch roi arian i ddigwyddiad codi arian Trystan drwy ei dudalen Just Giving Trystan Evans's Birthday