Mae menyw o Sir Gaerfyrddin yn cerdded Llwybr Arfordir Penfro unwaith yr wythnos am flwyddyn i godi arian i elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau.

Mae Helen Starkey, sy'n dod o Abergwili, eisoes wedi codi £610 o'i tharged o £1,500 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dechreuodd Helen ei her o gerdded y 186 o filltiroedd o gwmpas Llwybr Arfordir Penfro ym mis Gorffennaf, ac mae'n gobeithio cwblhau'r her erbyn 30 Mehefin 2021. Mae ei chyfaill, ‘Kal Junior’ y coala yn ymuno â hi ar ei theithiau cerdded. 

Wrth feddwl am bwysigrwydd codi arian i'r Elusen, dywedodd Helen: “Rwy'n ffodus iawn fy mod yn byw mewn gwlad mor hardd ond, fodd bynnag, gall natur wledig Cymru fod yn heriol. Dros y blynyddoedd, mae nifer o bobl sâl a phobl sydd wedi'u hanafu wedi cael budd o allu Ambiwlans Awyr Cymru i gyrraedd ardaloedd heriol neu anghysbell o Gymru i gynnig cymorth meddygol sydd ei angen yn fawr.”

Hyd yma, mae Cadeirydd Clwb Inner Wheel Caerfyrddin (Rhanbarth 15) wedi cwblhau amrywiaeth o deithiau cerdded. Mae rhai o'r teithiau cerdded wedi cynnwys Pen-caer i Abermawr, traeth Abermawr i Abereiddi ac Abereiddi i Fae Porth Mawr.

Mae teulu a ffrindiau hefyd wedi ymuno â Helen ar amrywiaeth o deithiau cerdded yn ystod yr ymdrech codi arian. Mae Helen wedi mwynhau'r golygfeydd godidog sydd wedi bod yn well fyth wrth wylio morloi a morloi bach ar y traethau islaw.

Dywedodd: “Mae'r teithiau cerdded yn mynd yn dda ac rwy'n eu cynllunio ymlaen llaw gan ystyried y tywydd a threfniadau trafnidiaeth. Mae'r golygfeydd yn hardd iawn, ac mae pob taith gerdded yn eithaf gwahanol o ran topograffeg, pa mor anodd a pha mor hir yw'r daith. Rwy'n paratoi cinio sy'n rhoi egni i mi, ac yn yfed digon o hylifau!”

Hyd yma, mae Helen wedi cwblhau dros 66 milltir o'i her 187 o filltiroedd. Gan fod y diwrnodau yn fyrrach, bydd Helen yn cerdded tua 3 awr, felly rhwng 5 a 6 milltir yr wythnos yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae Helen yn ddiolchgar iawn am y rhoddion y mae wedi'u cael yn barod. Dywedodd: “Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi fy noddi ac sydd wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian De a Chanolbarth Cymru ar gyfer yr Elusen: “Diolch yn fawr i Helen, sydd wedi parhau i gerdded, er gwaethaf y tywydd. Mae ei hymrwymiad a'i hymroddiad i gwblhau'r 186 o filltiroedd yn anhygoel, a bydd ei charedigrwydd yn ein helpu i barhau i achub bywydau yng Nghymru.”

Bydd Helen yn ailgychwyn ei her ar y diwrnod braf cyntaf wedi i'r cyfnod atal byr ddod i ben.