Gwnaeth Kevin Howard-Perry addo y byddai'n rhoi rhywbeth yn ôl i'r bobl a achubodd ei fywyd un diwrnod, wedi iddo gael ei achub gan y gwasanaethau brys ar ôl llewygu yn ei gartref.

Er mwyn nodi ei ben-blwydd yn 56 oed, penderfynodd y taid i chwech gymryd rhan mewn heriau rhedeg anodd dros dir mynyddig i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Er bod ganddo reolydd calon ac yn dioddef o glefyd y galon, gwthiodd Kevin ei gorff i'r eithaf ym mhob tywydd ochr yn ochr â'i ffrind meddal, Del y Ddraig, sef masgot Ambiwlans Awyr Cymru. Rhedodd 1,000 i filltiroedd mewn 193 o ddiwrnodau a chodi £5,000 i'r Elusen.

Dywedodd: “Roeddwn am redeg 100 milltir i ddathlu fy mhen-blwydd yn 56 i ddechrau, ac awgrymodd y töwr y dylwn ei wneud i godi arian i elusen. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen bryd hynny, ond unwaith i mi glywed a gweld y swm enfawr o arian roedd yn rhaid iddynt ei godi a maint y dasg ddyddiol, doedd dim amheuaeth yn fy meddwl fy mod am godi arian iddynt.”

Gwnaeth Kevin, sy'n byw gyda'i wraig Sarena yn Llandderfel, Y Bala, ymddeol o'r Fyddin y llynedd wedi 37 mlynedd o wasanaeth, lle y cododd drwy'r rhengoedd o fod yn grefftwr i fod yn is-gyrnol. Cwblhaodd Farathon Mynydd Branas Ultra ar ddiwrnod ei ben-blwydd ym mis Mai mewn amser o 40 awr a 48 munud. Dechreuodd yr her ddi-stop 100 milltir yn Llandderfel gan redeg tuag at Yr Wyddfa, dringo i fyny'r mynydd a rhedeg ar draws Garnedd Ugain, Crib Goch, Elidir Fawr a'r Garn. Ond oherwydd y tywydd gwael gorffennodd Kevin ei her drwy redeg 50 milltir yn ôl adref i Landderfel.

Cymerodd Kevin ran yn ei ail ras ychydig fisoedd yn ddiweddarach, sef rhedeg 43 milltir i fyny chwe copa'r Wyddfa, dros chwe llwybr gan godi ac esgyn 1,7000 o droedfeddi. Her nesaf Kevin, a oedd yn rhoi prawf ar ei wytnwch corfforol, oedd Ras Cefn y Ddraig, a gaiff ei hystyried fel un o'r heriau rhedeg mynydd anoddaf yn y byd, gyda'r cystadleuwyr yn cael eu herio i redeg 230 milltir ar hyd tiroedd mynyddig gwyllt, di-lwybr ac anghysbell Cymru dros gyfnod o chwe diwrnod.

Mentrodd y tad i ddau redeg y ras i'r gwrthwyneb, o Gaerdydd i Gaernarfon, ar ei ben ei hun a heb gymorth. Bu'n rhaid i Kevin dynnu allan o'r ras ar ôl iddo redeg 138 milltir oherwydd anaf i'w droed, ond roedd ei benderfynoldeb yn amlwg ac rydym yn gwerthfawrogi ei ymdrech i godi £5,000 i Ambiwlans Awyr Cymru yn fawr.

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Kevin: “Cefais wybod bod sawl personél o'r lluoedd arfog yn gwasanaethu gydag Ambiwlans Awyr Cymru a'r Llynges Frenhinol, y Fyddin neu'r Awyrlu. Penderfynais wthio fy hun ac ysgogi eraill i gyfrannu, yn ystod y cyfnod ariannol anodd hwn, gan ddangos ymrwymiad i gwblhau'r digwyddiadau hyn.

“Rwyf hefyd yn dioddef o glefyd y galon, a gafodd ei ganfod ar ddiwedd fy nghyfnod yn gwasanaethu'r Fyddin ac a ddaeth yn dipyn o sioc i mi. Mae gennyf reolydd calon nawr. Cefais fy achub gan y gwasanaethau brys yn Wiltshire wedi i mi lewygu yn fy nghartref yn 2016, felly roeddwn yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i Ambiwlans Awyr Cymru am eu bod yn rhan o rwydwaith gwasanaethau brys Cymru sy'n achub bywydau 24/7.

 “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn rhan hanfodol o'r Matrics Diogelwch sy'n diogelu pawb yng Nghymru 24/7. Mae'r angen ein cefnogaeth ariannol ar yr elusen. Rwyf yn hynod falch gyda'r canlyniad a'r holl gefnogaeth a dderbyniais gan bobl ar hyd y ffordd. Roedd yr her yn werth yr ymdrech, ac rwy'n gobeithio y gallaf helpu i achub bywydau a chynorthwyo Ambiwlans Awyr Cymru i'r dyfodol.”

Dywedodd Alwyn Jones, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae wedi bod yn her hollol anhygoel gan Kevin. Rwy’n ddiolchgar iawn am ei ymrwymiad i godi arian i'n helusen. Mae Kevin wedi codi swm anhygoel ac mae'n rhaid i ni gydnabod iddo frwydro drwy'r boen i lwyddo yn ei her. Llongyfarchiadau Kevin a diolch o galon am godi swm anhygoel.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.  

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.