Mae dau o wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru wedi dod o hyd i ffordd newydd arall o gefnogi’r gwasanaeth sy'n achub bywydau, drwy greu a gwerthu tai adar er budd yr Elusen.

Meddyliodd Ray a Pam Morgan, sy'n ŵr a gwraig o Gasnewydd yng Ngwent, am y syniad ar hap pan gafodd eu blwch adar eu hunain ei ddifrodi.

Dywedodd Pam: “Roedd fy nhŷ adar wedi torri a doedd dim modd ei drwsio. Roeddwn i am brynu tŷ adar newydd ond dywedodd Ray y byddai'n gwneud un. Roedd y tŷ adar mor hyfryd, ac yna aeth ati i greu un ar gyfer ein merch, sy'n byw yn yr Almaen. Cyfeiriodd ein cymdogion at ba mor lliwgar a llachar oedden nhw, a dyna pryd daeth y syniad i greu rhagor i'w gwerthu er budd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.”

Dechreuodd y cwpl, sydd wedi ymddeol, wneud y tai adar ar ddechrau'r pandemig y llynedd, ac maent hefyd wedi creu blychau nythu. Rhoddwyd y pren yn garedig gan eu siopau lleol Handyman Stores a Terry Howells yng Nghasnewydd, sydd wedi'u galluogi i greu 35 o eitemau hyd yma.

Wrth ddisgrifio'r broses greu, dywedodd Pam: “Mae Ray yn eu creu ar ffyn ac yn eu rhoi mewn potiau garddio yn llawn sment. Mae llawer o liwiau a meintiau gwahanol, yn ogystal â rhai ar ffurf cestyll. Rydym eisoes wedi gwerthu drwy argymhellion personol gan bobl eraill.”

Mae'r tai adar yn costio rhwng £20 a £35, ac mae'r blychau nythu yn £5 yr un. Gall unrhyw un sydd am eu prynu ffonio 07522 669472.

Mae Ray a Pam wedi bod yn gwirfoddoli dros Ambiwlans Awyr Cymru ers sawl blwyddyn, gan gynnal ffeiriau cist car a rhedeg siop godi yn eu hardal leol, ac maent wedi codi cannoedd o bunnoedd yn y broses.

Ychwanegodd Pam: “Gwnaeth fy ngŵr y rhain ar gyfer yr Elusen gan ei bod yn gwneud gwaith gwych ac mae angen arian arni i achub mwy o fywydau.”

Dywedodd Elin Murphy, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De: “Mae Ray a Pam eisoes yn cyfrannu llawer at ein gwasanaeth sy'n achub bywydau drwy eu rolau gwirfoddoli hanfodol. Mae'r fenter newydd hon i godi arian ar gyfer ein helusen yn wych, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt. Bydd y rhai sy'n prynu tŷ adar neu flwch nythu yn cael y pleser o wylio a chefnogi eu bywyd gwyllt lleol, yn ogystal â'n helpu ni i fod yno i bobl mewn angen ledled Cymru.

“Mae haelioni fel hyn mor bwysig i ni. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.