Bydd cyfnod yr ŵyl hyd yn oed yn fwy hudolus eleni yng nghartref y teulu Jones, wrth i Richard a'i bartner Michaela ddathlu Nadolig cyntaf eu mab, Dougie.

Ond, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai am Ambiwlans Awyr Cymru. Hebddynt, ni fyddai Richard, sy'n 34 oed, yma heddiw. Ni fyddai wedi cyfarfod â'i bartner ac ni fyddai ei fab wedi'i eni.

Mae Richard yn un o oroeswyr Ambiwlans Awyr Cymru a, diolch byth, yma'r Nadolig hwn i ddathlu amser hyfrytaf y flwyddyn gyda'i anwyliaid.

Gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn hollol wahanol. Wrth i'r tad i un deithio i'r gwaith yn ei drỳc cafodd ddamwain ffordd a achosodd anafiadau difrifol iddo. Gwnaeth y gofal critigol a chynnar a dderbyniodd gan griw Ambiwlans Awyr Cymru achub ei fywyd, yn ddi-os.

Ar ôl cyrraedd, nododd Dr Bob Tipping a'r Ymarferydd Gofal Critigol, Marc Allen, arwyddion ei fod yn gwaedu'n fewnol. Rhoddwyd chwe uned o gynnyrch gwaed i Richard ger ochr y ffordd gan ei fod wedi colli gwaed yn sylweddol, ac am fod ei anafiadau mor ddifrifol, yn enwedig ei goes, rhoddwyd anesthetig cyffredinol iddo a'i roi ar beiriant anadlu er mwyn rheoli ei anadlu.

Cafodd Richard ei drosglwyddo i'r ganolfan arbenigol agosaf ar gyfer anafiadau i goesau ac am ei fod mor sâl, gwnaed y penderfyniad i dorri rhan o'i goes dde. Treuliodd gyfnod yn Ysbyty Treforys, Abertawe, yn gwella o'i anafiadau lle y daeth i adnabod nyrs, sydd nawr yn fam i'w bachgen bach wyth mis oed. Mae'r tri yn edrych ymlaen at dreulio eu Nadolig cyntaf fel teulu gyda'i gilydd.  

Dywedodd Richard: “Fy mywyd yw fy ngwyrth Nadolig. Mae fy nheimladau tuag at y Nadolig wedi newid ers y ddamwain. Er fy mod yn ceisio peidio, mae'r ‘beth os’ yn dod i'r meddwl o bryd i'w gilydd. Nid wyf yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol bellach. Bydd cyfnod yr ŵyl yn arbennig iawn i mi a fy nheulu eleni wrth ddathlu Nadolig cyntaf fy mab, Dougie.

“Rwy'n edrych ymlaen at dreulio amser gyda fy nheulu a'm ffrindiau a mwynhau bwydydd blasus - yn enwedig y selsig fach mewn bacwn!”

Ers ei ddamwain mae Richard wedi gorfod dysgu ffordd gwbl newydd o fyw, gan gynnwys sut i gerdded gyda choes brosthetig. Mae'n cyfaddef iddo gael diwrnodau da a diwrnodau drwg a bellach yn neilltuo amser iddo ei hun yn hytrach na rhuthro o amgylch y lle fel yr arferai wneud cyn y ddamwain.

Dywedodd: “Mae tîm cyfan Ambiwlans Awyr Cymru wedi fy ysbrydoli'n fawr ac wedi rhoi cymaint i mi. Rwy'n rhoi yn ôl yn fy ffordd fy hun, gan roi cymorth cymheiriaid i eraill sydd wedi colli coes. Cymerais ran mewn cystadleuaeth bysgota gan godi arian i'r Elusen yn ddiweddar hefyd; mae pysgota yn un o fy niddordebau gydol oes.

“Rwyf wedi clywed straeon cyson am y pethau anhygoel mae Ambiwlans Awyr Cymru yn eu gwneud. Ond nid oeddwn erioed wedi meddwl rhyw lawer am y gwasanaeth o'r blaen ac ni feddyliais byth y byddai angen ei help arnaf. Cefais fy syfrdanu ar ôl cael gwybod bod yr Elusen ond yn cael ei hariannu gan roddion y cyhoedd, er eu bod yn gwneud gwaith anhygoel. Maent ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, a hyd yn oed ar Ddydd Nadolig.

“Wrth i mi fwyta fy Nghinio Nadolig ac yn mwynhau treulio amser gyda fy anwyliaid, byddaf yn meddwl am y rhai hynny sydd wedi aberthu eu Nadolig i achub bywydau.”

Os hoffech chi, fel Richard, gefnogi'r Elusen a'i helpu i achub mwy o fywydau y Nadolig hwn, gallwch roi arian drwy fynd i Gwyrth Nadolig Richard | Ymddiriedolaeth Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (walesairambulance.com)