Tad diolchgar yn rhoi £5,000 i elusen a helpodd i achub bywyd ei fab Mae tad anhunanol wedi rhoi £5,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i feddygon helpu i achub bywyd ei fab bum mlynedd yn ôl. Dywedodd Alex Evans: "Cefais ddamwain traffig ffordd yn 2016 pan gafodd fy mab Cian, dwy oed, ei anafu'n wael ac yn anffodus bu farw ei fam. Aethpwyd ag ef i'r ysbyty a chafodd ei drin gan Ambiwlans Awyr Cymru, a heb y driniaeth honno i achub bywyd, efallai na fyddai'n fyw heddiw. "Mae Cian nawr yn 7 mlwydd oed ac wedi gwella'n wych diolch i Ambiwlans Awyr Cymru. Rwy'n ddiolchgar am bopeth y mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ei wneud i ni ac yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi'r elusen." Tra roedd Alex yn yr ysbyty gyda Cian, aeth ei ffrindiau ati i greu tudalen codi arian er mwyn helpu Alex a Cian, a chafodd £10,000 ei godi i'r teulu. Ychwanegodd Alex: "Roeddwn bob amser yn bwriadu rhoi'r arian yn ôl pan oedd hynny'n bosibl.Fe wnes i roi £5,000 yr un i Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysbyty Plant Arch Noa. "Roedd yn syndod darganfod bod Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen ac yn dibynnu ar arian cyhoeddus. Mae'n wasanaeth hanfodol, ac ni fyddai llawer o bobl yma heddiw hebddo." Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae hon yn sefyllfa ofnadwy i unrhyw deulu fod ynddi ac rydym yn meddwl am Alex a Cian bob amser. Bydd yr arian a gafodd ei godi oherwydd y caredigrwydd a ddangoswyd iddynt yn helpu i gefnogi dwy elusen hanfodol yn eu gwaith. Bydd rhodd fel hon yn ein helpu i sicrhau ein bod ar gael i bobl Cymru pan fydd angen ein gofal critigol arnynt. Felly, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Alex, Cian a phawb a gyfrannodd at y dudalen codi arian." Manage Cookie Preferences