Pan ddechreuodd Steven Davies, sydd â dau o blant, redeg i golli pwysau, ni fyddai byth wedi dychmygu y byddai'n cofrestru ar gyfer digwyddiad Ironman. Ond ym mis Medi, cwblhaodd ei ras gyntaf a llwyddodd i godi swm anhygoel o £835 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Pan aeth pwysau'r cyn chwaraewr rygbi dros 20 stôn, gwyddai Steven fod angen iddo wneud rhywbeth cyn i'w bwysau fynd y tu hwnt i reolaeth. Rhoddodd ei esgidiau rhedeg amdano a dechreuodd daranu strydoedd Tonyrefail, lle mae'n byw gyda'i wraig Marie a'i blant, Owen, 13 oed a Bethan, 12 oed.

Dechreuodd drwy osod mân heriau i'w hun, gan gynyddu'r milltiroedd nes ei fod yn cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd. Ar ôl iddo gwblhau'r ras gyntaf, doedd dim stopio Steven. Cymerodd ran mewn rhagor o ddigwyddiadau, gan herio ei hun i guro ei amseroedd blaenorol, a llwyddodd i golli pum stôn hefyd.

Ar gyfer ei ben-blwydd yn 40, penderfynodd Steven, sy'n gweithio i'r gwasanaethau brys, ymgymryd â'r her eithaf – Ironman Cymru, triathlon hirbell llethol sy'n cynnwys nofio 2.4 milltir yn y môr, cwrs beicio mynydd 112 milltir a marathon drwy strydoedd Dinbych-y-pysgod. Fodd bynnag, oherwydd COVID-19, cafodd y digwyddiad ei ohirio ddwywaith ac yn hytrach na rhoi'r gorau iddi, parhaodd y gŵr 42 oed i hyfforddi.

Yn ogystal ag Ironman Cymru, llwyddodd i gwblhau'r Triathlon Pellter Olympaidd yng Nghaerdydd a'r Cwrs Pellter Hir yn Ninbych-y-pysgod yn ystod yr haf, er mwyn paratoi ar gyfer y digwyddiad mawr. Byddai'n dechrau hyfforddi am 4am yn aml, a chafodd ei gefnogi gan ei blant a fyddai'n aml yn ymuno ag ef ar deithiau beic neu sesiynau nofio.

Dywedodd Steven: “Cymerodd llawer iawn o ymrwymiad a gwaith caled. Roedd yr elfen hyfforddi yn cymryd llawer iawn o fy amser, felly byddwn i'n codi'n gynnar er mwyn ceisio treulio fy niwrnodau i ffwrdd gyda fy nheulu. Roedd yr heriau sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol yn anodd, ond yn werth chweil iawn.

“Mae fy nheulu wedi cynnig cymaint o gefnogaeth ac anogaeth, yn enwedig gyda'r sesiynau hyfforddi yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y nos, ynghyd â rhai anafiadau ar hyd y ffordd. Ers i mi gychwyn ar fy nhaith ffitrwydd yn 2017, rwyf bellach bum stôn yn ysgafnach, felly mae'r manteision o ran ffitrwydd ac iechyd personol wedi bod yn enfawr.”

Dewisodd Steven godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru am ei fod yn credu bod yr Elusen yn gwneud gwaith ardderchog ledled Cymru.

Dywedodd: “Drwy fy ngwaith, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol pa mor werthfawr yw Ambiwlans Awyr Cymru a thimau meddygol yr Elusen.

“Rwyf wedi bod mewn sawl sefyllfa lle rwyf wedi bod yn helpu i achub bywyd rhywun, ac mae gweld y meddygon cymwys yn cyrraedd wedi bod yn rhyddhad bob tro, boed hynny yn yr ambiwlans awyr neu mewn car.

“Rwy'n synnu bob tro pa mor wych yw'r Elusen, ac mae'r ffaith ei bod yn dibynnu ar roddion y cyhoedd yn anhygoel. Teimlais ei bod yn bwysig codi arian hanfodol i elusen sy'n cynnig ac yn gwneud cymaint i Gymru.”

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad

Wrth fyfyrio ar ei Ironman cyntaf, a gymerodd 16 awr a 34 munud, dywedodd Steven ei fod yn ddigwyddiad gwych a diolchodd i'w deulu, ei ffrindiau, a busnesau lleol am eu cefnogaeth.

Dywedodd: “Roedd yr awyrgylch yn Ironman Cymru yn ardderchog. Byddwn wrth fy modd yn ei wneud eto ac yn curo fy amser. Roedd fy ngwraig a'm plant yn ogystal â fy nithoedd yno ar ddechrau'r ras ac fe wnaeth hynny fy ngwthio ar hyd y ffordd. Ar filltir 10 y marathon, lle roeddwn i'n teimlo'n barod i roi'r gorau iddi, roedd eu hanogaeth yn help mawr.

“Gwnaeth busnesau lleol noddi fy nghrysau rhedeg a seiclo drwy dalu i arddangos eu logo arnynt, a gwnaeth fy ffrind, sydd â busnes ei hun, eu hargraffu am ddim, a wnaeth fy helpu i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd gwybod bod cymaint o bobl wedi helpu i'm cefnogi yn hwb mawr.”

Dywedodd Laura Coyne, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae cymryd rhan mewn digwyddiad Ironman yn gamp enfawr ac mae stori Steven yn ysbrydoliaeth.  Nid yn unig y mae wedi codi £835 i Ambiwlans Awyr Cymru, ond mae hefyd wed colli pum stôn ac wedi llwyddo i gyflawni nod ffitrwydd personol enfawr, rhywbeth na fyddai wedi hyd yn oed ystyried ei wneud ychydig flynyddoedd yn ôl.

“Diolch yn fawr i Steven a phawb a gefnogodd ei waith codi arian. Bydd y rhodd ardderchog hon yn achub bywydau.”