Mae staff ysgol o Sir Gaerfyrddin wedi codi dros £1,300 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gymryd rhan yn Hanner Marathon Great Welsh.

Cwblhaodd y tîm, a oedd yn cynnwys staff o amryw rolau yn Ysgol Mihangel Sant yn Llanelli, ras 13.1 o filltiroedd ym Mharc Gwledig Pembre yn Sir Gaerfyrddin.

Gweithiodd staff yr ysgol yn galed ar gyfer y digwyddiad a hwn oedd hanner marathon cyntaf sawl aelod o'r tîm. Roedden nhw'n awyddus iawn i gymryd rhan a dangos eu cefnogaeth i'r Elusen sy'n achub bywydau.

Mae Ysgol Mihangel Sant wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy gydol y flwyddyn academaidd gydag amrywiaeth o weithgareddau codi arian ac felly roedd yr Elusen yn ddewis amlwg i elwa o'r rhoddion a godwyd drwy'r hanner marathon.

Mae'r ysgol, wedi'i lleoli yn y Bryn, ychydig filltiroedd i ffwrdd o bencadlys yr Elusen, yn cynnig addysg i ddisgyblion rhwng tair a 18 mlwydd oed. Mae'n cynnig llefydd dydd yn ogystal â llefydd preswyl ac yn 2021 cafodd ei henwi fel ‘Ysgol Uwchradd Annibynnol Gymreig y Degawd’ gan The Sunday Times.

Dywedodd Benson Ferrari, Pennaeth Ysgol Mihangel Sant: “Rwy'n falch iawn o fy nghydweithwyr a hyfforddodd ac a gymerodd ran yn Hanner Marathon Great Welsh, gyda'r nod o gefnogi ein Hambiwlans Awyr Cymru hanfodol bwysig, rhywbeth a allai fod yno i ni pan fyddai angen hynny arnom.

“Rwyf hefyd yn arbennig o ddiolchgar i'r holl noddwyr a gefnogodd y rhedwyr er mwyn iddynt allu codi swm ardderchog.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion elusennol i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: Llongyfarchiadau i'r staff yn Ysgol Mihangel Sant yn Llanelli am gwblhau Hanner Marathon Great Welsh er mwyn helpu ein Helusen sy'n achub bywydau a diolch yn fawr i bawb a gefnogodd. Dylech i gyd fod yn hynod falch o'ch hunain!

Ar ran Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, hoffwn ddiolch i'r ysgol am yr holl ddigwyddiadau codi arian a gynhaliwyd drwy gydol y flwyddyn academaidd hefyd. Bydd eich rhodd yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf, boed hynny yn yr awyr neu drwy ein cerbydau ymateb cyflym. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn.”