Aeth staff penderfynol o archfarchnad Morrisons yng Nghaernarfon ati i wynebu tywydd garw wrth iddynt ddringo'r Wyddfa er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Drwy eu hymdrechion, codwyd swm rhagorol o £811, a gwnaeth Sefydliad Morrisons roi swm cyfatebol gan roi hwb ariannol o £1,623 i'r Elusen.

Gwnaeth cydweithwyr Allison Williams a Maxine Legett o siop Morrisons ymgymryd â'r her hefyd, mewn tywydd gwael a glaw trwm.

Ychwanegodd Allison: "Gwnaethom ddewis Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gan ei bod yn agos at galon llawer o bobl leol. Mae'r elusen yn darparu gwasanaeth gwych, y cyfan am ddim, ac mae'n dibynnu'n llwyr ar roddion elusennol er mwyn sicrhau y gall barhau i ddarparu gofal meddygol brys i bobl sydd wedi'u hanafu mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru.

"Er ei bod yn anodd ar adegau ac er bod y tywydd yn wael, a oedd yn golygu nad oeddem yn gallu gweld llawer, gwnaethom fwynhau cerdded i gopa'r Wyddfa yn fawr iawn. Roedd gwybod ein bod yn gwneud hyn at achos da a bod y Sefydliad yn rhoi punt am bob punt roedden ni'n ei chodi yn ein cymell i gyflawni'r her."

Sefydlwyd Sefydliad Morrisons gan archfarchnad Morrisons yn 2015 ac mae'n dyfarnu grantiau i brosiectau elusennol sy'n helpu i wella bywydau pobl, ac yn dyblu unrhyw arian a godir gan gydweithwyr ar gyfer eu helusen o ddewis.

Ers ei lansio, mae dros £34 miliwn wedi cael ei roi i gannoedd o elusennau ledled Cymru, yr Alban a Lloegr.

Dywedodd Adrian Horsley, Cynghorydd Sefydliad Morrisons: "Rydym yn falch iawn o Allison a Maxine a'u timau am godi swm anhygoel o arian. Rwy'n falch ein bod ni, drwy'r Sefydliad, wedi gallu dyblu'r swm a godwyd ganddynt ar gyfer elusen mor haeddiannol. Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i Allison a Maxine a'r holl bobl am eu haelioni wrth gefnogi ymdrech tîm gwych."

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Dywedodd Alwyn Jones, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Diolch yn fawr iawn i staff Morrisons, a oedd yn benderfynol o gwblhau'r digwyddiad codi arian er budd ein helusen sy'n achub bywydau, er gwaethaf y tywydd garw. Dylech i gyd fod yn hynod falch o'ch ymdrechion. Hefyd, diolch i Sefydliad Morrisons a ddyblodd y swm a godwyd. Bydd pob rhodd i'r Elusen yn helpu ein meddygon i fod ar gael i bobl Cymru pan fydd ein hangen ni arnynt fwyaf."

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.