Mae caffi yn y Bala wedi codi £510 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru er cof am fyfyriwr meddygol ifanc a fu farw mewn damwain traffig ffordd haf diwethaf.

Roedd staff Caffi Lakeside y Bala, sydd bellach wedi cael ei ail-berchnogi, wedi gwneud bagiau llawn danteithion i gŵn ar gyfer cwsmeriaid gyda chŵn, a phenderfynwyd cyfrannu'r arian a godwyd er cof am Steven James Lee a oedd ond yn 26-mlwydd-oed pan fu farw.

Roedd Mr Lee, a oedd bron â chwblhau ei radd mewn meddygaeth, wedi bod yn gyrru ei feic modur ar hyd yr A40 yn Swydd Henffordd ar yr 11 Awst pan fu mewn gwrthdrawiad.

Dywedodd Adam Wilkinson, cyn reolwr caffi Lakeside y Bala, fod y syniad o gyfrannu'r arian a godwyd drwy werthu bagiau danteithion i gŵn er cof am Mr Lee wedi dod gan un o'i staff.

Dywedodd: "Roeddem wedi bod wrthi'n gwneud bisgedi i gŵn ac yn eu gwerthu am £2.50 yn y caffi ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Roeddent yn boblogaidd iawn ymysg y twristiaid a'r cerddwyr oedd yn stopio yn y caffi ger Llyn y Bala.

"Pan glywodd fy nghyflogai Linda am ddamwain drasig Steven, awgrymodd ein bod yn gwerthu'r danteithion er cof amdano. Er nad oedd Steven o'r Bala yn wreiddiol, roedd Linda'n adnabod ei deulu ac roedd damwain Steven wedi cyffwrdd â ni. Roedd yn unigolyn addawol iawn a oedd yn fyfyriwr meddygaeth a hefyd yn hyfforddwr peilotiaid, felly roedd yn teimlo'n gwbl addas i ni roi yn ôl i Ambiwlans Awyr Cymru. 

Roedd Mr Lee o Landrillo-yn-Rhos yng Nghonwy, ond yn byw yn Abertawe er mwyn cwblhau ei radd mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Roedd ganddo radd hefyd mewn bioleg, gradd meistr mewn Imiwnoleg ac yn swyddog comisiwn gyda Chadetiaid yr Awyrlu. Bu'n hyfforddwr peilotiaid ers yn 22-mlwydd oed ac wedi chwarae rhan allweddol yn sefydlu Côr Iechyd Meddygol Abertawe. Roedd Mr Lee wedi cwblhau ei Wobr Dug Caeredin ac yn ffotograffydd ac athro piano brwd.

Dywedodd Linda Moon, sy'n ffrind annwyl i'r teulu, ei bod yn adnabod chwaer Mr Lee, Alison, ers iddyn nhw weithio yn Lerpwl gyda'i gilydd ac roeddent wedi cadw mewn cysylltiad.

Dywedodd: "Roedd Steven yn ddyn ifanc addawol iawn ac yn hynod gymwys. Roedd dyfodol disglair o'i flaen ac roedd yn ddawnus iawn. Ar ôl clywed am y ddamwain, roeddwn yn teimlo y dylen ni wneud rhywbeth er cof amdano yn y caffi.

"Roeddem wedi cyffwrdd â'r teulu pan ddywedom ein bod am gyfrannu'r arian a godwyd drwy werthu danteithion i gŵn er cof am Steven.

"Roedd rhoi i Ambiwlans Awyr Cymru yn gam priodol o ystyried ymroddiad Steven at hedfan ac am y ffaith ei fod mor agos at gwblhau ei radd mewn meddygaeth.

“Er na chafodd Steven ei drin gan Ambiwlans Awyr Cymru, roedden ni'n dal eisiau i'r arian fod yn ei enw am fod cymaint o ddamweiniau beiciau modur yn digwydd yn yr ardal hon a bod ardaloedd gwledig yn dibynnu cymaint ar yr ambiwlans awyr. Mae'n achos haeddiannol iawn."

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £8 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys yn darparu meddygon ymgynghorol GIG medrus iawn ac ymarferwyr gofal critigol sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.