Mae staff a disgyblion Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch wedi codi £2,645 drwy gymryd rhan yn her rithwir Cerdded Cymru Ambiwlans Awyr Cymru eleni - sef her castell i gastell.

Roedd Cerdded Cymru yn rhoi cyfle i gerddwyr osod targed iddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar nifer y camau y gallent eu cyflawni dros gyfnod o fis o gysur eu cartrefi eu hunain.  Roedd pob targed yn gyfwerth â thaith gerdded rhwng cestyll eiconig Cymru, a gellid cyflawni'r daith yn y cartref, yn yr ardd, wrth wneud ymarfer corff neu fynd â'r ci am dro – a hyd yn oed drwy fynd i fyny ac i lawr y grisiau! 

Heriodd y pennaeth Steffan Davies a Bryn Shepherd, sy'n athro, eu hunain i gerdded 50 milltir mewn un diwrnod yng nghwmni Becca Hughes, sef cariad Bryn, a ‘Dell’ y ddraig, masgot Ambiwlans Awyr Cymru.

Ymunodd athrawon eraill â'u cydweithwyr yn ystod y dydd i gwblhau pellter o 35 milltir neu 16 milltir.

Cafodd disgyblion y ddwy ysgol yr her o gerdded pellter taith rithwir rhwng Castell Dinas Brân a Chastell Caergwrle, sef 16 milltir neu 36,000 o gamau.

Wrth feddwl am y rheswm dros gymryd rhan yn ymgyrch Cerdded Cymru,  dywedodd Bryn: “Roedden ni'n awyddus iawn i drefnu digwyddiad codi arian dros wyliau hanner tymor am ei bod yn ffordd wych i bawb gadw'n heini ac i ni gysylltu â'r rhieni a'n cymunedau, am ei bod wedi bod yn anodd iawn gwneud hyn gyda'r cyfyngiadau COVID-19 yn yr ysgolion.

“Gwnaethon ni rywbeth tebyg yn ystod hanner tymor mis Chwefror a gwnaeth llawer o deuluoedd ein hysgol gymryd rhan. Roedden ni am wneud rhywbeth tebyg, gyda diben penodol. Digwyddais i weld James Hook yn rhannu neges am her Cerdded Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, a sylweddolais yn syth y byddai'n berffaith i ni.”

Cymerodd Steffan, Bryn a Becca 18 awr i gwblhau'r her 50 milltir, sef pellter taith rhwng Castell Carreg Cennen a Chastell Penfro. Cwblhaodd y plant a'u rhieni eu 16 milltir dros gyfnod o wythnos.

Mae'r ysgolion wrth eu bodd â llwyddiant y digwyddiad, meddai Bryn: “Mae'r gefnogaeth a gafwyd gan yr ysgolion wedi bod yn wych, gyda'r rhan fwyaf o'r rhieni a'r plant yn cymryd rhan. Roedd y gefnogaeth ar y diwrnod yn wych i ni'r athrawon, gyda nifer o ddisgyblion a rhieni yn dod allan i'n cefnogi ar ein taith.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr. 

Dywedodd Steffan Davies, y Pennaeth: “Fel cymuned ysgol gwnaethom lwyddo i godi £2,645. Rwy'n hynod falch o'r plant, y staff, y rhieni, a phawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol am gymryd rhan a chodi arian i achos haeddiannol iawn.

“Roedd yn wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan yn yr her am ei bod yn dangos pa mor bwysig yw gweithgarwch corfforol yn ystod hanner tymor. Roedd hefyd yn wych codi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw Ambiwlans Awyr Cymru i'r plant. “

Dywedodd Dougie Bancroft, cydlynydd codi arian cymunedol yr Elusen: “Mae'r disgyblion, y staff a'r rhieni wedi codi swm anhygoel i'n Helusen. Maent wedi dangos bod modd cwblhau Cerdded Cymru fel unigolyn neu fel aelod o dîm. Mae pawb yn y ddwy ysgol yn falch iawn o'u cyflawniadau. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru. Diolch yn fawr.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.