Er gwaethaf y flwyddyn anarferol rydym ni i gyd wedi'i hwynebu, mae South Wales Seniors Classic wedi codi £4,000 i Ambiwlans Awyr Cymru mewn her golff glasurol.

Mae'r grŵp wedi bod yn codi arian i'r elusen sy'n achub bywydau ers 2004 ac mae wedi codi £96,420 hyd yn hyn.

Wedi i'r llywodraeth gyhoeddi cyfyngiadau yn sgil pandemig COVID-19, penderfynodd trefnwyr South Wales Seniors Classic ganslo holl gystadlaethau 2020.

Fodd bynnag, wrth i'r cyfyngiadau ddechrau cael eu llacio, penderfynwyd y gellid aildrefnu cystadleuaeth y Claret Jug, a fyddai'n dechrau ym mis Gorffennaf fel arfer, a'i chynnal ym mis Awst.

Dywedodd Howel Craven o South Wales Seniors Classic, a oedd wrth ei fodd: “Ar ôl trafod ag aelodau ein pwyllgor, penderfynom y byddai'n bosibl trefnu cystadleuaeth y Claret Jug a, gyda chydweithrediad pedwar o Glybiau eraill De Cymru, penderfynom gynnal ein cystadleuaeth. Bu'n llwyddiant ysgubol – roedd ein lleoliadau bron iawn yn llawn o fewn pedair wythnos.”

Caiff cystadleuaeth y Claret Jug ei noddi gan Gwmni Molston Coors Beverage.

Wrth siarad am lwyddiant digwyddiad codi arian eleni, meddai Howel: “O dan yr amgylchiadau anarferol, rydym yn falch iawn ein bod wedi codi £4,000 yn ystod tymor lle na fyddem wedi codi unrhyw arian o gwbl fel arall.

“Diolch i'r holl glybiau golff sy'n cynnig eu cyfleusterau i ni eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Ond yn bennaf, diolch i garedigrwydd yr holl golffwyr sy'n cymryd rhan yn y Claret Jug a'r Gwpan/Dysgl. Hoffem ddiolch i'n noddwyr ffyddlon am eu help i gadw'r costau rhedeg i lawr gan sicrhau ei bod yn haws rhoi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian yr Elusen ar gyfer De Cymru: “Mae'n bleser ac yn anrhydedd gennym dderbyn rhodd arbennig arall gan South Wales Seniors Classic. Er gwaethaf y ffaith bod y pandemig wedi golygu y bu'n rhaid canslo nifer o'r digwyddiadau, ni roddodd yr aelodau'r ffidl yn y to a gwnaethant godi £4,000 i'r elusen, sy'n swm anhygoel. Rydym yn ddiolchgar iawn.

“Mae ymrwymiad parhaus y clybiau a'u hymroddiad i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru yn wych. Mae'r gefnogaeth dros y blynyddoedd wedi ein helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr.

“Hoffem ddiolch i'r holl glybiau sydd wedi cymryd rhan, a hoffem ddiolch yn arbennig i'r holl noddwyr sydd wedi rhoi arian tuag at y gwobrau”.

Am ragor o wybodaeth am Golffwyr South Wales Seniors Classic, ewch i'r wefan swsc.co.uk