Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ailagor rhai o'i siopau elusen, y bu'n rhaid eu cau yn ystod y Cyfnod Atal Byr yng Nghymru, ddydd Llun  9 Tachwedd.  

Caeodd y siopau yn Abertawe (Cwm-du a Stryd y Coleg),  Bangor, Wrecsam, Coed-duon a Chaerdydd eu drysau ddydd Gwener, 23 Hydref yn dilyn y cyhoeddiad y byddai angen i bob siop nad yw'n hanfodol gau fel rhan o gyfnod atal byr Cymru.  

Bydd y  siopau  ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11am a 4pm.      

Bydd y gwasanaeth dosbarthu a chasglu ar gael hefyd ar ôl i'r siopau  ailagor.  

Ar yr un dydd, bydd yr Elusen hefyd yn ailagor ei siop elusen yn Nhywyn, sydd wedi bod ar gau ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth.

Rydym wrthi'n paratoi gweddill siopau'r Elusen yn Ninbych-y-pysgod, y Mwmbwls, Caernarfon, yr Eglwys Newydd a'r Fenni i agor eu drysau eto yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae Ambiwlans Awyr  Cymru wedi rhoi mesurau gofalus ar waith er mwyn sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig yn ystod y pandemig presennol.  

   Er mwyn cadw'r cyhoedd yn ddiogel yn y siopau, mae'r Elusen wedi addasu ei horiau agor fel bod modd i staff a gwirfoddolwyr lanhau'r siop yn drylwyr ar ddechrau a diwedd pob dydd.     

   Gan ddilyn canllawiau'r llywodraeth, bydd angen i bawb wisgo gorchuddion wyneb ym mhob un o'r siopau, ar wahân i'r rhai hynny sydd wedi'u heithrio rhag eu gwisgo.    

   Dywedodd Andrew Lawton, Pennaeth Manwerthu'r Elusen:“Rydym yn falch iawn bod modd i ni ailagor drysauein siopau, a fu ar agor cyn y cyfnod atal byr. Mae incwm Ambiwlans Awyr Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pandemig, yn sgil cau siopau elusen a chanslo digwyddiadau.  

“Roedd ein siopau yn gwneud yn hynod o dda cyn y cyfnod atal byr, ac rydym yn gobeithio y byddant yn parhau i fod yr un mor llwyddiannus ar ôl i ni ailagor ar 9 Tachwedd. 

“Mae diogelwch ein staff a'n cwsmeriaid yn hollbwysig i ni a hoffem roi sicrwydd i'n cefnogwyr ein bod wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau bod y siop yn ddiogel. Er mwyn sicrhau bod modd i'r siop barhau ar agor, rydym yn gofyn i gwsmeriaid ddilyn y canllawiau llym. Nod hyn yw sicrhau eu bod nhw, yn ogystal â'n staff a'n gwirfoddolwyr, yn ddiogel. Diolch i'n holl gwsmeriaid sydd wedi bod yn amyneddgar wrth aros i'r siop  ailagor:  Unwaith eto, diolch o galon i chi am eich cefnogaeth, sy'n helpu i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau.”    

Atgoffir cwsmeriaid y dylid cadwpelltercymdeithasol bob amser yn ogystal â dilyn system unffordd. Mae'r Elusen hefyd yn gofyn i gwsmeriaid beidio â chyffwrdd ag unrhyw beth oni bai eu bod yn bwriadu prynu'r eitem honno.     

Pan fyddant yn barod i dalu, bydd gofyn i gwsmeriaid sefyll yn y blwch penodedig a defnyddio dull digyffwrdd neu gerdyn lle y bo'n bosibl. Mae gorsafoedddiheintiodwylo hefyd ar gael i bobl sicrhau bod eu dwylo'n lân, ac mae sgriniau Perspex wedi cael eu gosod wrth bob pwynt talu.    
    
At hynny, mae'r Elusen wedi gwneud rhai newidiadau ynghylch yr eitemau rhodd maent yn eu derbyn, yn ogystal â'r gwasanaeth dosbarthu. Mae'r gwahaniaethau hynny fel a ganlyn:
     

   Eitemau Rhodd – Yn anffodus, dim ond nifercyfyngedig o eitemau rhodd y gall y siopau eu derbyn ar hyn o bryd. Mae hyn am fod angen cadw eitemau ar wahân am gyfnod i osgoi'r posibilrwydd o groeshalogi.     

   Gwasanaeth Dosbarthu– Yn anffodus, dim ond gwasanaeth dosbarthu cyfyngedig y gall yr Elusen ei ddarparu ar hyn o bryd.    

   Caiff eitemau eu gadael ar garreg y drws, yn hytrach na'u cario i mewn i gartrefi. Byddai'n well casglu eich eitemau o'r siop lle y bo'n bosibl.