26/05/2020

Diolchodd Ambiwlans Awyr Cymru i gwsmeriaid a staff hael un o siopau grŵp Nisa yng Ngheredigion ar ôl iddynt godi £1,000 ar gyfer yr Elusen.

Gwnaeth y siop ym Mow Street y rhodd fel rhan o fenter Gwneud Gwahaniaeth yn Lleol, sef elusen a lansiwyd er mwyn helpu siopau Nisa a gaiff eu rhedeg yn annibynnol.

Caiff yr arian ei godi drwy werthu cynhyrchion penodol, gan gynnwys pob eitem yng nghyfres 'Heritage' Nisa ei hun. Bob tro y caiff eitem sy'n rhan o'r cynllun ei phrynu, caiff canran o'r pris ei hychwanegu at gronfa'r siop ar gyfer Gwneud Gwahaniaeth yn Lleol, a chaiff hon wedyn ei rhoi at achosion da yn ardal leol y siop honno.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Canolbarth a De Cymru: "Diolch o galon i staff a chwsmeriaid Nisa ym Mow Street am dderbyn yr her a chael blwyddyn lwyddiannus iawn o ran codi arian.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb yn Nisa am eu cymorth parhaus i Ambiwlans Awyr Cymru, ac am haelioni'r cyhoedd a roddodd arian. Bydd yr arian a godwyd yn hanfodol er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr. Diolch.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.   Am ragor o wybodaeth, ewch i  www.ambiwlansawyrcymru.com.  

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.