Mae digwyddiad i agor ystafell arddangos ceginau newydd wedi helpu i godi dros £300 ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Cynhaliodd siop Kitchens by Emma Reed, sydd wedi'i lleoli yn Llansamlet, Abertawe,  ddigwyddiad i agor ei hystafell arddangos yn swyddogol y llynedd, ac roedd nifer o gyflenwyr ac aelodau o'r cyhoedd yn bresennol, gyda'r cogydd teledu a'r awdur, Peter Sidwell, a'r Gower Crepe Company yn arlwyo.

Rhoddodd Kitchens by Emma Reed £240, sef £1 am bob person a ddaeth i'r digwyddiad, a chodwyd gweddill yr arian drwy roddion unigol mewn blychau casglu.

Wrth feddwl am y rhesymau dros benderfynu codi arian ar gyfer yr elusen hon sy'n achub bywydau, dywedodd Rob Reed o Kitchens by Emma Reed: “Yn gyntaf, mae gennym aelodau o'r teulu a pherthnasau sy'n cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy daliadau debyd uniongyrchol bob mis. Yn ail, cafodd Emma ei ysbrydoli gan stori a ddywedwyd wrthi gan un o aelodau rhwydwaith BNI, a esboniodd fod Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymateb i argyfwng yn ymwneud â'i dad rai blynyddoedd ynghynt, a bod yr ymateb cyflym a'r gofal meddygol a gafodd wedyn wedi achub ei fywyd.

“Rydym hefyd yn teimlo nad yw Ambiwlans Awyr Cymru bob amser yn cael yr un gwerthfawrogiad na chefnogaeth â'r gwasanaethau brys eraill.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Jane Griffiths, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru:   “Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i'r digwyddiad i agor yr ystafell arddangos ceginau newydd yn Kitchens by Emma Reed, neu a wnaeth gyfraniad i'r elusen. Rydych wedi llwyddo i godi £302, sy'n gyfanswm gwych a fydd yn helpu ein meddygon i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf, 24 awr y dydd, 7 diwrnod y wythnos. Diolch o galon i Kitchens by Emma Reed am gefnogi ein helusen sy'n achub bywydau.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.