Bydd siop Ambiwlans Awyr Cymru ym Mangor yn symud i safle newydd yn y ddinas, gan gynnig profiad siopa gwell i’w chefnogwyr.

Bydd yr elusen sy'n achub bywydau yn symud o'i lleoliad presennol ar y Stryd Fawr i Ganolfan Menai, gyda'r drysau i'r siop newydd i fod i agor ym mis Awst. Wrth baratoi ar gyfer symud o'i safle presennol, y diwrnod olaf o fasnachu yn ei siop bresennol ar y Stryd Fawr fydd dydd Sadwrn 8 Gorffennaf.

Dywedodd Amanda Hilton, Rheolwr Siop yr Elusen ym Mangor: “Mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i’n Helusen ac rwy’n edrych ymlaen at symud lleoliad.

“Mae lleoliad y siop newydd yn cynnig mwy o arwynebedd llawr, a fydd yn cynnwys eitemau mawr a bach sydd wedi’u rhoi’n hael gan y cyhoedd. Bydd yn cynnwys dillad ail-law, nwyddau cartref a dodrefn.”

Yn 2021, treuliodd yr Elusen amser yn datblygu strategaeth newydd, a ddylanwadwyd gan adborth gan weithwyr, cefnogwyr a gwirfoddolwyr. Rhan o’r strategaeth honno yw’r Glasbrint Manwerthu newydd, sy’n ceisio cael y cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchu incwm ar gyfer ei gwasanaeth achub bywyd a gwella presenoldeb cymunedol yr Elusen.

Dywedodd Rob Coles, Pennaeth Manwerthu Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wedi bod â phresenoldeb ym Mangor ers sawl blwyddyn ac rydym yn angerddol am ein cysylltiad â’r ddinas. Mae cyfle wedi dod i'r amlwg i wella'r profiad siopa i'n cefnogwyr a'r amgylchedd gwaith i'n gweithwyr a'n gwirfoddolwyr. Mae Canolfan Menai yn lleoliad poblogaidd ac mae adborth gan adwerthwyr sydd wedi’u lleoli yno yn dangos bod nifer fawr o ymwelwyr yno, a bod masnach yn gadarnhaol.”

Mae swydd newydd wedi'i chreu o ganlyniad i'r symud, gyda'r Elusen yn penodi rheolwr cynorthwyol. Mae cyfleoedd gwirfoddoli hefyd ar gael yn y siop a gellir cael rhagor o fanylion drwy fynd i'n gwefan www.walesairambulance.com/volunteer.

Mae Canolfan Menai yn eiddo i Bearmont Capital. Mae'r cwmni wedi gweithio'n agos gyda'r Elusen i gwblhau amserlen waith gynhwysfawr ac wedi cyfrannu ffitiadau o hen siop Debenhams yn y ganolfan.

Dywedodd Rob Lloyd, Prif Swyddog Gweithredol Bearmont Capital: “Rydym yn falch iawn o groesawu Ambiwlans Awyr Cymru i Ganolfan Menai. Ers caffael y ganolfan siopa, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddenu tenantiaid newydd, tra'n archwilio syniadau newydd i wneud y profiad siopa yn fwy deniadol i'r gymuned leol ac ymwelwyr.

Mae lleoliad y siop elusen ar y safle hwn yn ein llenwi â hyder y bydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r stryd fawr, gan ddod â chyfleoedd cyflogaeth a bywyd newydd i uned nad yw erioed wedi’i meddiannu.”

I gloi, dywedodd y Amanda: “Ynghyd â’r rheolwr cynorthwyol a’r holl wirfoddolwyr, rydym yn edrych ymlaen at y symud ac at ddechrau pennod newydd ar y cyd ag Ambiwlans Awyr Cymru.” 

Bydd yr arian sy'n cael ei godi o siop Bangor, o ganlyniad i roddion a gwerthu eitemau o'ch dewis chi, yn cael effaith i achub bywydau.

Yn cael ei hadnabod fel ‘Adran Argyfwng Hedfan’ oherwydd y gofal a arweinir gan feddygon ymgynghorol y mae’n ei gynnig, mae’r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy bartneriaeth Trydydd Sector a Sector Cyhoeddus unigryw.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £8 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys yn darparu meddygon ymgynghorol GIG medrus iawn ac ymarferwyr gofal critigol sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.