Mae Sioe Alpacaod Cymru, a gynhelir bob blwyddyn, wrth ei bodd ei bod wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel elusen y sioe.  

Bydd y digwyddiad poblogaidd, a gaiff ei gynnal ddydd Sadwrn 22 Hydref ym Marchnad Da Byw y Trallwng, yn cynnwys dros 300 o alpacaod. Bydd yr alpacaod yn cael eu beirniadu ar y diwrnod gan aelodau alpaca blaenllaw gan gynnwys Julia Corrigan Stuart. 

Dyma'r ail waith i'r sioe gael ei chynnal. Yn dilyn llwyddiant y sioe gyntaf ym mis Tachwedd 2019, bu'n rhaid i Sioe Alpacaod Cymru gau ei drysau fel pawb arall, yn sgil pandemig y coronafeirws. 

Dywedodd un o'r trefnwyr, Susan Myerscough: “Dyma'r tro cyntaf i ni gefnogi'r Elusen ac oherwydd bod pob un ohonom sy'n byw yng Nghymru yn gwerthfawrogi'r angen am Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn gwasanaethu a helpu cymunedau gwledig, credwn y bydd yn Elusen hynod werthfawr a phoblogaidd i'w chefnogi. Rydym yn gobeithio y gall yr alpacaod helpu i wneud gwahaniaeth i'r gwasanaeth.” 

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Dywedodd Dougie Bancroft, Swyddog Codi Arian Cymunedol o Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein dewis fel elusen y sioe. Mae'n cynnig cyfle gwych i Ambiwlans Awyr Cymru dderbyn arian gwerthfawr, yn enwedig wrth i ni ddathlu 21 mlynedd ers ein sefydlu. Bydd y gefnogaeth gan bawb yn Sioe Alpacaod Cymru yn ein helpu i gadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr ac i gadw ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.” 

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

I gael rhagor o wybodaeth am Sioe Alpacaod Cymru ewch i Sioe Alpacaod Cymru 2022 – Cymdeithas Alpacaod Prydain (bas-uk.com) 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.   

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.