Pan gafodd Sharon Jones y cyfle i nenblymio fel anrheg Nadolig, penderfynodd wneud hynny drwy godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Cwblhaodd Sharon, 53, o Abenbury, Wrecsam, y nenblymiad yng Nghaerhirfryn fis diwethaf ac mae wedi codi swm anhygoel o £2,290 i’r elusen sy'n achub bywydau.

Roedd nenblymio yn rhywbeth roedd Sharon wedi sôn y byddai wedi hoffi ei wneud yn ei thridegau o bosibl, ond nid oedd hi erioed wedi disgwyl ei wneud yn ei hoedran hi – nes iddi gael yr anrheg gan ei gŵr, Huw.

Dywedodd: “Roedd Huw wedi bod yn fy holi beth oeddwn ei eisiau ar gyfer y Nadolig, ond doedd gen i ddim syniad beth i ofyn amdano. Felly, rwy'n credu ei fod wedi cael llond bol ar ofyn a phenderfynodd roi syrpreis i mi gyda nenblymiad. Roedd yn syndod mawr ar fore'r Nadolig!

“Penderfynais droi fy anrheg yn ddigwyddiad elusennol! Mae dewis elusen yn dasg anodd, gan fod llawer o elusennau i ddewis o'u plith. Ond gan fod fy ngŵr yn ffermwr, a gall damweiniau ddigwydd yn hawdd yng nghefn gwlad, lle mae angen cymorth meddygol ar bobl ar unwaith, penderfynwyd mai Ambiwlans Awyr Cymru fyddai'r elusen.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Cymerodd y fam-gu i un, sy'n helpu ar y fferm deuluol, yn ogystal â gweithio'n rhan amser mewn cwmni cyfreithiol a gofalu am ei hŵyr, Tomos, y naid ar ddiwrnod hyfryd.

Ychwanegodd Sharon: “Roedd y tywydd yn berffaith. Yn rhyfedd iawn, doeddwn i ddim yn teimlo'n nerfus ond wrth i gyfanswm yr arian gynyddu, roeddwn i'n gwybod na allwn i dynnu allan.  Roedd fy hyfforddwr yn wych.  Pan eisteddais yn yr awyren yn mwynhau'r olygfa, sylweddolais yn sydyn mai fi fyddai allan gyntaf, ond digwyddodd mor gyflym fel nad oedd gen i amser i ddweud gan bwyll! 

Neidiais o 15,000 troedfedd gyda chwymp rhydd o 60 eiliad. Llwyddais i gadw fy llygaid ar agor a phan edrychais i lawr roedd yr olygfa yn syfrdanol. Agorodd y parasiwt gan ein cario ni'n araf i'r ddaear. Ar ôl glanio, allwn i ddim credu'r hyn roeddwn newydd ei wneud.  Dywedais ar y pryd na fyddwn i byth yn nenblymio eto, ond ar ôl gwylio’r fideo sawl gwaith, rwyf wedi newid fy meddwl.”

Roedd mab Sharon, Geraint, ei merch, Zara a’i merch-yng-nghyfraith, Gwenno, i gyd yn gwybod am yr anrheg Nadolig annisgwyl roedd Huw wedi’i threfnu.

Erbyn hyn, mae Sharon yn ddiolchgar bod Huw wedi ei synnu gyda'r nenblymiad, ac ychwanegodd: “Diolch, Huw, am brynu'r anrheg hon a roddodd brofiad hollol newydd i mi, a gwneud i mi sylweddoli'r hyn y galla i ei gyflawni a rhoi rhywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono.

“Pan ddechreuais i'r dudalen codi arian, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n cyrraedd £500, felly mae cyrraedd £2,290 gyda chymorth fy ngŵr, a'i sgiliau darbwyllol yn gofyn i bobl am roddion, wir yn anhygoel a hoffwn i ddiolch i bawb a'm noddodd.  Rwy'n gwybod y bydd yr arian hwn yn help mawr i Ambiwlans Awyr Cymru sy'n gwneud gwaith gwych drwy gydol y flwyddyn 24/7.”

Dywedodd Debra Sima, un o Weithwyr Codi Arian Cymunedol yr Elusen: “Llongyfarchiadau i Sharon a gafodd y nenblymiad annisgwyl fel anrheg, a phenderfynu y byddai'n codi arian i elusen. Diolch yn fawr am godi swm anhygoel o £2,290 i'r elusen. Dylech fod yn falch eich bod wedi cymryd y naid, a chodi arian y mae angen dirfawr amdano.

“Rydych wedi dangos eich bod wedi mwynhau, er ei fod yn brofiad hollol newydd, ac efallai y byddwch yn mentro eto yn y dyfodol. Diolch hefyd i Huw, a phawb a gefnogodd Sharon i godi'r arian. Bydd pob ceiniog a godwyd yn helpu'r bobl sydd ein hangen ledled Cymru.”

Mae dal cyfle i gefnogi Sharon drwy roi arian drwy ei thudalen Just Giving – Sharon's Skydive

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.